- - Cymryd Rhan

Cymryd Rhan
Gall cyflogwyr a mudiadau gymryd rhan yng nghymhwyster Bagloriaeth Cymru trwy:
- cynhyrchu deunyddiau ar gyfer dysgu ac addysgu
- rhoi sgyrsiau i ddysgwyr
- cynhyrchu Briffiau Her sydd i'w cymeradwyo gan CBAC os at ddefnydd asesiad
Gall Sefydliadau Addysg Uwch gymryd rhan trwy:
- hyfforddi athrawon a dysgwyr mewn dulliau ymchwil ar gyfer y Project Unigol
- cynhyrchu Cynigion Project sydd yn gysylltiedig â chyrsiau Gradd
- Cynnal cynadleddau dysgwyr ar faterion byd-eang ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-Eang
- Cyflogwyr a Sefydliadau Allanol
- Addysg Uwch
‘Mae Menter yr Ifanc yn cefnogi datblygiad pobl ifanc mentrus. Gallant nodi a chychwyn cyfleoedd gan addasu eu hymatebion ar yr un pryd i sefyllfaoedd sy’n newid. Rydym yn falch iawn o ddarparu dwy her Bagloriaeth Cymru, gan gefnogi pobl ifanc Cymru wrth iddyn nhw gymhwyso’u sgiliau mentrus at faterion cymdeithasol lleol.’
Russell Winnard, Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwasanaethau, Menter yr Ifanc
"Rydym yn ystyried bod Bagloriaeth Cymru yn gyfle gwych i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt symud o'r amgylchedd addysgol i'r byd gwaith. Mae'n gyfrwng delfrydol ar gyfer ein polisi allgymorth i godi ymwybyddiaeth o'r sefydliad a phwysigrwydd a pherthnasedd data ystadegol ym mywydau myfyrwyr o ddydd i ddydd ac o ran yr hyn maen nhw'n gobeithio ei wneud yn y dyfodol. Mae Bagloriaeth Cymru yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa iau a sicrhau ar yr un pryd eu bod nhw a'u haddysgwyr yn elwa o'r gefnogaeth amrywiol gallwn ei chynnig o ran ehangu eu haddysgu a gwella'r ffordd o gyflwyno Bagloriaeth Cymru."
Kate Roberts – Swyddfa Ystadegau Gwladol