Fel Arholwr neu Gymedrolwr profiadol, mae gennych rôl hanfodol yn y broses asesu. Mae rôl Uwch Arholwr neu Gymedrolwr yn rhoi boddhad ac yn gyfle unigryw. Gallwch elwa mewn sawl ffordd wrth ymgymryd â'r rôl hon, fel yr amlinellir isod.
 |
Datblygu eich sgiliau rheoli ac arwain tîm ymroddedig
Fel Uwch Arholwr a Chymedrolwr, byddwch chi'n gyfrifol am reoli tîm o arholwyr a'u tywys nhw drwy'r broses asesu. Byddwch yn rhoi arweiniad i'ch tîm ac yn datblygu eich sgiliau rheoli project a chadw amser wrth fynd ymlaen.
|
 |
Cryfhau eich arbenigedd dylunio asesiadau
Bydd gosod y cwestiynau a chynlluniau marcio ar gyfer y papur cwestiynau yn golygu eich bod yn cael cipolwg heb ei debyg ar y broses o greu, cyflwyno ac asesu papurau cwestiynau o un pen i'r llall.
|
 |
Derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr
Byddwch yn derbyn hyfforddiant wrth greu asesiadau dibynadwy a dilys ynghyd ag arweiniad a chefnogaeth i sicrhau eich bod yn deall yn llawn y cyfrifoldebau, y disgwyliadau a'r dyddiadau cau ar gyfer eich swydd. Mae ein rhwydwaith cefnogi eang ar waith fel eich bod chi'n gallu cysylltu â thîm Penodedigion CBAC a'r Swyddog Pwnc ar unrhyw adeg.
|
 |
Mwynhau cyfleoedd gweithio hyblyg
Mae'r rôl hon yn amrywiol, yn ddiddorol, yn un sy'n rhoi boddhad a hefyd yn rhoi cyfle i chi weithio'n hyblyg ar yr un pryd â'ch swydd bresennol, lle bo hynny'n briodol.
|
 |
Rhwydweithio ag athrawon a phobl broffesiynol profiadol eraill
Fel Arholwr neu Gymedrolwr profiadol, mae gennych rôl hanfodol yn y broses asesu. Mae rôl Uwch Arholwr neu Gymedrolwr yn rhoi boddhad ac yn gyfle unigryw. Gallwch elwa mewn sawl ffordd wrth ymgymryd â'r rôl hon, fel yr amlinellir isod.
|
I fod yn Uwch Arholwr neu Gymedrolwr, mae angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol. Dylech:
- fod yn addysgu neu'n darlithio ar hyn o bryd neu fod ymddeol gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad addysgu diweddar yn y pwnc yr ydych yn gwneud cais amdano
- bod â phrofiad asesu perthnasol o rôl arholi neu gymedroli blaenorol
- bod â chymwysterau academaidd addas yn y pwnc er enghraifft gradd a chymhwyster addysgu
- preswylio yn y DU
- darparu manylion canolwyr (efallai byddwn yn cysylltu â nhw). Dylech roi manylion eich prifathro neu bennaeth adran presennol neu fwyaf diweddar, lle bo hynny'n bosibl
- bod â phrofiad o reoli tîm
- bod â'r gallu i weithio'n dda o dan bwysau a chyrraedd terfynau amser tynn
- bod ar gael i ddarparu cefnogaeth dros y ffôn neu drwy e-bost i Arholwyr neu Gymedrolwyr yn eich tîm
- bod ar gael am uchafswm o 10 diwrnod y flwyddyn a all fod yn ystod y tymor, ar benwythnosau neu adeg y gwyliau i fynychu PGPC, cyflwyno mewn cynadleddau arweinwyr tîm a chynadleddau arholwyr a mynychu cyfarfodydd safoni a dyfarnu
- bod ar gael am gyfnod o tua 6 wythnos pan fydd Arholwyr a/neu Gymedrolwyr yn ymgymryd â gwaith hyd nes y cyfarfod dyfarnu
- bod â'ch cyfrifiadur neu liniadur Windows eich hun gyda mynediad i'r rhyngrwyd y tu allan i safle'r ysgol.
Gall rhai meini prawf amrywio yn dibynnu ar y cymhwyster. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd penodol am ofynion penodol.
Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth eang i Uwch Arholwyr a Chymedrolwyr.
Mae ein pecyn cefnogi'n cynnwys:
- Hyfforddiant ac arweiniad yn y meysydd allweddol canlynol i'ch cefnogi yn eich rôl:
- Cynhyrchu papurau cwestiynau
- Pwyllgor gwerthuso papurau cwestiynau (QPEC)
- Paratoi ar gyfer safoni a darparu hyfforddiant i arholwyr/cymedrolwyr
- Hyfforddiant systemau
- Dyfarnu
- Ysgrifennu Adroddiadau
- Cefnogaeth uniongyrchol gan y Swyddog Pwnc a'r Cadeirydd a chyfleoedd i rwydweithio gydag Uwch Arholwyr/Cymedrolwyr eraill ar gyfer eich pwnc.
- Cefnogaeth dros y ffôn a thrwy e-bost gan ein tîm penodedigion profiadol.
Mae nifer o gamau yn y broses o gael eich penodi'n Uwch Arholwr neu'n Uwch Gymedrolwr: