Rydym yn recriwtio ar gyfer Arholwyr a Chymedrolwyr drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb arbennig ar hyn o bryd yn y rhai sydd am ymuno â ni i arholi ar gyfer y pynciau canlynol.
Astudiaethau Ffilm |
UG/Safon Uwch |
Busnes |
UG/Safon Uwch a TGAU |
Celfyddydau Perfformio |
Lefel 1/2 |
Cymdeithaseg |
UG/Safon Uwch a TGAU |
Lletygarwch ac Arlwyo |
Lefel 1/2 |
Saesneg Iaith |
TGAU |
Saesneg Llenyddiaeth |
UG/Safon Uwch a TGAU |
Troseddeg |
Lefel 3 |
Hanes |
UG/Safon Uwch |
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth |
UG/Safon Uwch |
Economeg |
UG/Safon Uwch |
Mae arholi a chymedroli yn unigryw, yn ddiddorol ac yn rhoi boddhad. Gall hefyd gael ei wneud ar y cyd â'ch rôl bresennol.
 |
Gwella eich gwybodaeth am y pwnc
Fel Arholwr neu Gymedrolwr, byddwch yn cael cipolwg amhrisiadwy ar y broses asesu yn CBAC, yn gwella eich sgiliau a hefyd yn cynyddu eich dealltwriaeth o'ch pwnc. Byddwch chi'n addysgwyr gwell oherwydd hynny.
|
 |
Dilyniant Gyrfa
Ar ôl i chi ennill profiad fel Arholwr neu Gymedrolwr, mae cyfleoedd i chi symud ymlaen i rôl uwch er enghraifft Arweinydd Tîm neu Uwch Arholwr/ Gymedrolwr. Mae rolau uwch yn cynnwys gweithio'n ganolog yn eich pwnc ac ymgymryd â thasgau fel ysgrifennu papurau cwestiynau a chynlluniau marcio, gweithio'n rhan o dîm arbenigol i ddatblygu manylebau newydd neu reoli tîm o arbenigwyr pwnc.
|
 |
Rhwydweithio ag athrawon a phobl broffesiynol profiadol eraill
Ehangu ar eich cysylltiadau drwy gydol y broses asesu drwy rwydweithio ag athrawon eraill sy'n addysgu'r un fanyleb. Mae'r broses arholi a chymedroli yn cynnwys trafodaeth ryngweithiol a rhannu arferion gorau y byddwch chi'n elwa ohonyn nhw.
|
 |
Derbyn hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr
Rydym yn darparu hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth ardderchog drwy gydol y broses asesu i sicrhau eich bod yn hyderus yn y gwaith y byddwch yn ymgymryd ag ef. Mae ein rhwydwaith cefnogi eang ar waith fel eich bod chi'n gallu cysylltu â'ch Arweinydd Tîm neu Uwch Arholwr penodedig a thîm Penodedigion CBAC wrth i chi weithio drwy'r sgriptiau a ddyrannwyd i chi.
|
 |
Gweithio Hyblyg
Er bod gwaith arholi a chymedroli yn ddiddorol ac yn rhoi boddhad, mae'r rôl yn hyblyg oherwydd bod modd gwneud y marcio gartref ar yr un pryd â'ch swydd addysgu bresennol am y cyfnod byr.
|
 |
Rhowch hwb i'ch incwm
Rydym yn cynnig pecyn talu cystadleuol i'n Harholwyr a'n Cymedrolwyr am y gwaith a wneir ac rydym hefyd yn talu am unrhyw gostau teithio i fynychu cyfarfodydd os oes angen. Lle y bo'n briodol, efallai y bydd modd i chi hawlio costau llety. Yn ddibynnol ar delerau ac amodau.
|
I fod yn Arholwr neu'n Gymedrolwr, mae angen i chi fodloni'r meini prawf canlynol. Dylech:
- Bod â chymwysterau academaidd addas yn y pwnc, er enghraifft gradd a chymhwyster addysgu
- Bod yn addysgu neu’n darlithio ar hyn o bryd neu fod wedi ymddeol gyda phrofiad addysgu ac asesu yn y pwnc a’r lefel yr ydych yn gwneud cais amdano
- Darparu manylion canolwyr (efallai byddwn yn cysylltu â nhw). Dylech roi manylion eich prifathro neu bennaeth adran presennol neu fwyaf diweddar, lle bo hynny'n bosibl
- Preswylio yn y DU
- Bod ar gael am gyfnod o tua 3 wythnos i ymgymryd â gwaith dwys yn marcio sgriptiau a chymedroli gwaith cwrs ym mis Mai - Gorffennaf (neu'n gynnar yn y gwanwyn os yn berthnasol)
- Mynychu cynhadledd hyfforddi wyneb yn wyneb orfodol ar gyfer Arholwyr/ Cymedrolwyr
- Bod â'ch cyfrifiadur neu liniadur Windows eich hun gyda Windows 8 neu ddiweddarach wedi’i osod arno (efallai y cefnogir systemau eraill, gofynnwch)
- Bod â mynediad band llydan diogel
- Gall rhai meini prawf amrywio yn dibynnu ar y cymhwyster. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ystyried profiad a gwybodaeth berthnasol. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd ar gyfer gofynion penodol.
Rydym yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth eang i Arholwyr a Chymedrolwyr o ddiwrnod cyntaf y penodiad hyd at y diwrnod y mae'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi.
Mae ein pecyn cefnogi'n cynnwys:
- Deunyddiau sefydlu sy'n rhoi trosolwg o'r rôl.
- Hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth ar systemau a sut i gael mynediad at ein systemau a'u defnyddio.
- Hyfforddiant ac arweiniad pwnc-benodol.
- Cynadleddau safoni ar gyfer arholwyr/cymedrolwyr gyda chyfle i ymarfer a chael adborth wrth gymhwyso'r cynllun marcio.
- Arweinydd tîm dynodedig neu Uwch Arholwr/Cymedrolwr i'ch cefnogi drwy gydol y broses farcio.
- Cefnogaeth dros y ffôn a thrwy e-bost gan ein tîm penodedigion profiadol.
Does dim byd yn haws na chael eich derbyn i fod yn arholwr neu'n gymedrolwr. Dim ond dilyn y camau isod y mae angen ei wneud:
Ceisiadau Llwyddiannus
Os yw eich cais yn llwyddiannus a bod swydd wag addas ar gael, byddwn yn anfon e-bost atoch yn cynnig y swydd i chi'n ffurfiol ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
Os derbyniwch y swydd, fe'ch gwahoddir i gyfarfod Arholwr a darperir deunyddiau hyfforddi pellach.
Os ydych yn gwrthod y swydd, bydd eich cais yn aros ar ein rhestr wrth gefn ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi ar gyfer y flwyddyn academaidd olynol, os bydd swydd wag ar gael. Os nad ydych chi am i ni gysylltu â chi ynglŷn â swyddi gwag yn y dyfodol, rhowch wybod i ni a byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar y rhestr.