Cwestiynau Cyffredin

  • Y broses o wneud cais
  • Rheoli eich cyfrif Penodedigion
  • Gwybodaeth am y rôl

Dylid gwneud pob cais ar-lein bellach drwy system y Penodedigion.

Nid ydym yn darparu ffurflenni cais papur mwyach.

Os oes angen cymorth ag unrhyw agwedd ar y broses gychwynnol o wneud cais, gofynnwch am gymorth neu ffoniwch 02920 265457.

I greu cyfrif newydd, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais yma' ar dudalen fewngofnodi'r system Penodedigion.

Bydd angen i chi fewnbynnu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost, bydd y system yn anfon cyfrinair dros dro i chi dros e-bost a bydd angen i chi newid hwnnw wrth fewngofnodi am y tro cyntaf.

Gallwch. Gallwch olrhain cynnydd eich cais trwy'r rhan 'Maes y Pwnc' ar wefan y Penodedigion, o dan 'statws cymeradwyo'. Os yw statws eich cais ar-lein yn newid ar unrhyw adeg, byddwch yn derbyn e-bost yn eich cynghori i wirio'r safle.  

Os ydych chi wedi gweithio fel Arholwr neu Gymedrolwr gyda CBAC o'r blaen, ni fydd angen i chi wneud cais arall onid ydych chi'n gwneud cais am rôl Uwch Arholwr neu Gymedrolwr. 

O dro i dro, bydd y pynciau a'r lefelau ar y safle yn newid yn ôl ein gofynion. Bydd manylion y swyddi gwag sydd ar gael yn ymddangos ar y wefan gyhoeddus. 

Nid oes angen manylion mewngofnodi ar ganolwr i fynd ar yr adran Geirda ar y safle hwn. Yn syml, cliciwch ar y cyswllt yn yr e-bost a bydd yn mynd â chi'n uniongyrchol i'r dudalen Geirda ar y safle. (D.S. Y dudalen geirda yw'r unig ran o'r safle y gall canolwr ei gweld). Os byddwch yn mynd yn syth i dudalen fewngofnodi'r wefan, copïwch a gludwch y cyswllt i'ch porwr rhyngrwyd. Os yw'r cyswllt a anfonwyd atoch wedi dod i ben, ebostiwch cymorth.wrth.ymgeisio@cbac.co.uk neu ffoniwch 029 2026 5457 a byddwch yn cael cyswllt mwy diweddar.