Dod â chymwysterau yn fyw

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag amrywiol randdeiliaid ledled Cymru i gyd-awduro cyfres newydd o gymwysterau TGAU yn rhan o broject 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru.

 

Bydd ein dull yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn gynhwysol, yn ysgogol, yn ategu'r cwricwlwm, ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

 

 

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Penderfyniadau a'u Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau nawr yn ymgysylltu'n weithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i greu cymwysterau ysbrydoledig, arloesol a chyffrous i ddysgwyr yng Nghymru.

 

 

Yma i'ch cefnogi chi

 

Mae ein manylebau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig bellach ar gael. Mae'r manylebau hyn ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2025. Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol, a bydd Canllawiau Addysgu yn dilyn ym mis Ionawr.

 

Angen mwy o wybodaeth?  Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni ar datblygucymwysterau@cbac.co.uk.

 

Gallwch ein dilyn hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol: