Ysbrydoli entrepreneuriaid busnesau'r dyfodol
Mae datblygiad ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig yn parhau i wneud cynnydd sylweddol. Mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau wedi bod yn hynod brysur yn ymateb i adborth gan Cymwysterau Cymru ynghylch cyflwyniadau cyntaf ein manylebau. Maen nhw bellach wedi cyflwyno'r ail fersiwn i'n rheoleiddiwr, a bydd y manylebau drafft hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn ystod tymor yr haf.
Busnes yw un o'n cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a fydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025. Yma mae Rachel Dodge, un o'n Swyddogion Datblygu Cymwysterau a Stephen Oliver, Swyddog Pwnc yn trafod ein proses o gyd-awduro datblygiad y cymhwyster hwn, sut rydym wedi adalw agweddau poblogaidd o'n manyleb gyfredol ac wedi cyflwyno deunyddiau newydd ac arloesol i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru.
Rachel Dodge | Swyddog Datblygu Cymwysterau |
Stepehn Oliver | Swyddog Pwnc |
"Yn CBAC, mae gennym dros 75 mlynedd o brofiad o ddatblygu a chyflwyno cymwysterau, sy'n cael eu harwain gan ein Tîm Datblygu Cymwysterau. Fel tîm, rydym wedi ymrwymo i ddilyn dull o gyd-awduro'r gwaith o ddatblygu'n cymwysterau, gan wrando ar amrywiaeth eang o safbwyntiau i sicrhau y bydd ein cymwysterau'n ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb dysgwyr ar draws Cymru.
Nid oedd ein dull o ddatblygu'r cymhwyster TGAU Busnes Gwneud-i-Gymru'n ddim gwahanol, fodd bynnag, rydym yn arbennig o falch o'r agweddau newydd rydym wedi'u cyflwyno ac rydym yn credu y byddan nhw'n taro tant â pherchnogion busnes ac entrepreneuriaid y dyfodol ac yn eu hysbrydoli.
Mynd i'r afael â phryderon cychwynnol
Un o'r newidiadau mwyaf trawiadol, yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru newydd, oedd y penderfyniad i symud Busnes i faes dysgu'r Dyniaethau. Mynegwyd pryder yn yr adborth cychwynnol gan y gymuned addysgu y byddai'r newid yn arwain at ddiffyg ffocws ar hanfodion busnes a theori yng nghynnwys y cymhwyster, ac o ganlyniad, y byddai'r pwnc yn colli ei hunaniaeth. Fodd bynnag, roeddem yn hyderus y gallem fynd i'r afael â'r pryderon hyn gan greu datrysiad priodol.
Yn rhan o'n gwaith datblygu, fe wnaethom gychwyn arni drwy adolygu'r Meini Prawf Cymeradwyo, a ddiffiniwyd gan Cymwysterau Cymru. O'r pwynt hwn, aeth ein tîm ati i weithio'n ddyrys i ddatblygu amlinelliad ein cymhwyster, a rhannwyd hwn ar gyfer ymgynghoriad yn hwyr yn 2023. Roedd yr adborth cychwynnol yn gadarnhaol ar y cyfan, fodd bynnag, roedd rhai yn teimlo bod diffyg ffocws ar hanfodion busnes a theori yng nghynnwys y cymhwyster o hyd. Yn seiliedig ar yr adborth hwn, fe wnaethom ychwanegu hanfodion busnes at bwrpas Uned 1 gan ailenwi Uned 3 'Strategaethau Busnes ar gyfer Llwyddiant' lle mae pwyslais cliriach ar gysyniadau busnes a theori. Hefyd, rydym wedi cynllunio'r cymhwyster fel bod hanfodion busnes yn cael eu harchwilio drwy ryngweithiadau cymdeithasol megis archwilio sut mae'r gymdeithas yn effeithio ar weithrediadau busnes.
Cyflwyno testunau newydd
Ynghyd â chadw testunau a oedd yn boblogaidd yn ein manyleb gyfredol, rydym wedi cyflwyno testunau newydd a fydd yn sicrhau bod y pwnc yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ysbrydoli dysgwyr. Rydym wedi adolygu'r canllawiau a'r syniadau diweddaraf gan sefydliadau allweddol gan gynnwys Busnes Cymru a Chonffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) ac rydym wedi ymgorffori hyn yn rhan o feysydd y pwnc. Yn ogystal, rydym wedi cyflwyno newidiadau deddfwriaethol allweddol sy'n effeithio ar arferion busnes, megis yr ymrwymiadau amgylcheddol newydd gan gynnwys Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Cymru (2024) a'r ymgyrch i gyrraedd 'sero net'.
Cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru
I gefnogi uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar feysydd newydd gan gynnwys rôl a dylanwad busnes ar bobl, lleoedd a'r gymuned yn ogystal â'r sgiliau a fydd yn ddeniadol i fusnesau a chyflogwyr yn y dyfodol.
Ynghyd â chynnwys newydd, cynlluniwyd y cymhwyster gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gan gynnwys datrys problemau, gwneud penderfyniadau a nodweddion a sgiliau entrepreneuraidd, sgiliau allweddol sy'n ddeniadol iawn i gyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt. Drwy eu hastudiaethau, bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd i gymhwyso'r sgiliau hyn ac i ddefnyddio eu dealltwriaeth o fusnes mewn enghreifftiau o fywyd go iawn.
Mae asesiad di-arholiad yn enghraifft gryf o lle gall dysgwyr gymhwyso'u sgiliau a'u dealltwriaeth at eu hardal leol. Yma, byddan nhw'n ymgymryd ag ymholiad i fusnes yn eu hardal leol a bydd ganddyn nhw gyfle i ystyried anghenion eu hardal leol ac i ddatblygu datrysiad entrepreneuraidd.
Rydym yn hyderus y bydd cyflwyno testunau newydd a ffocws cryfach ar ddatblygu sgiliau yn ysbrydoli dysgwyr, gan gadw hanfodion allweddol astudio Busnes. At hynny, bydd cynnwys y pwnc, ochr yn ochr â'r cyfle i ystyried materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cefnogi pedwar pwrpas y cwricwlwm newydd.
Edrych tua'r dyfodol
Rydym wrth ein bodd â'r adborth gychwynnol a gafwyd gan Cymwysterau Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at rannu ein manyleb ddrafft â'n hathrawon yn fuan. Mae ein timau wedi gweithio'n ofnadwy o galed i greu'r fanyleb newydd hon, ac rydym yn teimlo ei bod wedi adlewyrchu ysbryd y Cwricwlwm i Gymru ac y bydd yn boblogaidd ymhlith amrywiaeth eang o ddysgwyr. Mae'n gyfnod cyffrous i addysgu yng Nghymru, ac rydym yn falch o chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu a chyflwyno'r gyfres newydd hon o gymwysterau."
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.