Ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru 2024

Ymgeiswyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru 2024

Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau TGAU, Lefel 1 / 2 a chymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen.

Canlyniadau TGAU Cymru

  • Enillodd 19.2% o fyfyrwyr A* - A
  • Enillodd 62.2% o fyfyrwyr raddau A* - C
  • Enillodd 96.6% o fyfyrwyr A* - G

Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen

  • Enillwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol/Sylfaen gan 97.5% o fyfyrwyr
  • Llwyddodd 91.3% yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Hoffwn longyfarch y myfyrwyr TGAU a galwedigaethol ar eu camp heddiw. Mae'r canlyniadau a enillwyd ganddynt yn dangos eu holl ymdrech a dyfalbarhad drwy gydol eu hastudiaethau. Dymunwn y gorau iddynt wrth iddynt symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant, a chyflogaeth.

"Hoffem ddiolch i'r athrawon, tiwtoriaid, a swyddogion arholiadau sy'n gweithio yn yr ysgolion a'r colegau ledled y wlad am eu holl waith caled, ac am barhau i gefnogi ac ymrwymo i sicrhau bod cyfres arholiadau eleni wedi mynd rhagddi'n llwyddiannus. Hoffem gydnabod cyfraniad y rhieni a'r gofalwyr yn ogystal, heb eu cefnogaeth anhygoel nhw ni fyddai'r myfyrwyr wedi ennill y canlyniadau hyn heddiw."

Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw

Er mwyn cefnogi ymgeiswyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad.


Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:

Jonathan Thomas,
Rheolwr CC a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102