
Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd NTFW 2025?
Ymunwch â'n timau pwnc yng Nghynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) 2025: Prentisiaethau: Hybu Twf Economaidd ac Arloesi yn y Dyfodol.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau 6 Mawrth a bydd yn cynnwys cymysgedd o brif siaradwyr a gweithdai rhyngweithiol. Mae ffocws y gynhadledd eleni ar y rôl y mae prentisiaethau'n ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu o'r radd flaenaf i sicrhau twf economaidd i Gymru yn y dyfodol.
Fel rhan o'r gynhadledd, bydd ein timau'n arddangos ein hamrywiaeth o gymwysterau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol sydd wedi'u creu mewn partneriaeth ag arbenigwyr addysg a diwydiant. Mae'r pecyn yn cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ar draws amrywiaeth o lefelau a dewisiadau ar gyfer dilyn cymwysterau sy'n seiliedig ar gredyd.
Yn sôn am ein presenoldeb ni mae Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol): 'Mae cynhadledd flynyddol NFTW yn ddyddiad allweddol yn ein calendr, sy'n ein galluogi i gwrdd yn uniongyrchol ag addysgwyr o bob cwr o Gymru. Yn ystod y digwyddiad cyffrous hwn, gallwn arddangos y clwstwr o gymwysterau rydym yn eu cynnig sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr i fynd i fyd gwaith yn hyderus yn y dyfodol. Mae ein timau'n edrych ymlaen at gwrdd â chynrychiolwyr a dangos y gefnogaeth unigryw y mae CBAC yn ei gynnig o ran cyflwyno ein cymwysterau.”
Mae cymwysterau yn ein cyfres yn cynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru a Llwybrau at Gyflogaeth, gan sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth i ddilyn pa bynnag lwybr y maent yn dewis ei ddilyn. Mae rhagor o wybodaeth am ein pecyn cyfan ar gael drwy cbac.co.uk/dyfodol.
Siaradwyr gwadd a gweithdai
Mae'r gynhadledd yn cynnwys amserlen gynhwysfawr o siaradwyr difyr a gweithdai rhyngweithiol gan amrywiaeth o sefydliadau allweddol gan gynnwys Cymwysterau Cymru ac Estyn.
Am wybodaeth bellach ac er mwyn cadw eich lle, ewch i wefan NTFW.