Y wybodaeth ddiweddaraf am 'Y Gwyddorau (Dwyradd)' Gwneud-i-Gymru

Y wybodaeth ddiweddaraf am 'Y Gwyddorau (Dwyradd)' Gwneud-i-Gymru

Ddoe, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru fod addysgu cyntaf TGAU 'Y Gwyddorau (Dwyradd)' wedi'i newid o fis Medi 2025 i fis Medi 2026. Gallwch edrych ar eu datganiad llawn a manylion pellach am y penderfyniad yma.


Diweddaru llinell amser y gwaith datblygu

Yn dilyn y penderfyniad hwn, mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau wedi addasu ein hamserlen. Bydd y gwaith o ddatblygu 'Y Gwyddorau (Dwyradd)' bellach yn digwydd yn rhan o'r ail gam datblygu.

Deallwn y penderfyniad a wnaed gan Cymwysterau Cymru i newid dyddiad cyflwyno'r cymhwyster hwn. Maen nhw am ailystyried rhai o'r agweddau dylunio yn eu meini prawf cymeradwyo er mwyn sicrhau y gallwn ni ddatblygu'r cymhwyster sy'n fwyaf addas i anghenion y dysgwyr.

Cyhoeddir fersiwn wedi'i diweddaru o amlinelliad y cymhwyster yn 2025.


Cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth presennol

O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, bydd addysgu ein cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth presennol yn parhau tan 2027, gyda'r asesiad olaf i ddigwydd yn haf 2027. Bydd cyfleoedd ailsefyll ar gael ar gyfer Ionawr 2028. Effeithir ar y cymwysterau TGAU Gwyddoniaeth presennol hyn:

  • Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gradd Unigol) - C00/0780/1
  • Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dwyradd) - C00/0780/2
  • Bioleg - C00/0779/8
  • Cemeg - C00/0779/9
  • Ffiseg - C00/0780/0
  • Gwyddoniaeth Dwyradd - C00/0780/3

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â'n cymwysterau Gwyddoniaeth presennol, cysylltwch â thîm y pwnc Gwyddoniaeth ar gwyddoniaeth@cbac.co.uk.

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.