Y don gyntaf o Ganllawiau Addysgu Gwneud-i-Gymru bellach ar gael

Yn dilyn cyhoeddi ein manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol wedi'u cymeradwyo ar gyfer ton gyntaf ein TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, ac yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gyda Cymwysterau Cymru, rydym bellach wedi cyhoeddi'r Canllawiau Addysgu cysylltiedig*. Bydd y rhain yn cefnogi athrawon a darlithwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno am y tro cyntaf o fis Medi 2025.  

Gan gyfeirio at y cyhoeddiad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cyhoeddi ein cyfres o Ganllawiau Addysgu, ochr yn ochr â'r manylebau a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol wedi'u cymeradwyo ar gyfer ton gyntaf ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru.

Bydd y deunyddiau cefnogi hyn yn cynorthwyo athrawon a darlithwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymwysterau newydd a chyffrous hyn. Byddant yn eu helpu i gyflwyno'r cymwysterau gyda hyder, ac yn y pen draw yn ysbrydoli ac yn cymell eu dysgwyr.

Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r adborth adeiladol a roddwyd gan ein cymunedau addysgol wrth ddatblygu’r cymwysterau newydd hyn, a fydd yn cynnig profiadau dysgu newydd wedi’u teilwra i ddysgwyr ledled Cymru.

Mae pob cymhwyster wedi'i ddylunio'n ofalus i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru, gan alluogi ysgolion a cholegau i deilwra eu haddysgu ar gyfer anghenion a diddordebau eu dysgwyr.

Ochr yn ochr a'r dogfennau cefnogi, mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn parhau i gyhoeddi adnoddau cefnogi RHAD AC AM DDIM i’w defnyddio wrth gyflwyno'r cymwysterau hyn.

Ar ben hynny, bydd y pecyn hwn yn cael ei ategu gan amserlen eang o sesiynau Dysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb, a fydd ar gael i ysgolion a cholegau ledled Cymru yn ystod tymor y gwanwyn.” 

*Sylwer, bydd ein Canllawiau Addysgu ar gyfer TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.


Pwrpas y Canllawiau Addysgu

Mae ein dogfennau Canllawiau Addysgu wedi'u dylunio i gefnogi athrawon a darlithwyr wrth gyflwyno ein cymwysterau newydd. Maen nhw'n cynnig arweiniad ar ofynion cymhwyster penodol a'r broses asesu. Ar ben hynny, bydd y dogfennau hyn yn eu cefnogi i nodi cyfleoedd i ymgorffori elfennau o'r Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau hyn.

Bydd pob canllaw yn cynorthwyo athrawon a darlithwyr i ddatblygu cyrsiau ysgogol a chyffrous wedi'u teilwra i anghenion a sgiliau eu dysgwyr. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n cynnig gweithgareddau posibl yn yr ystafell ddosbarth a chysylltau i adnoddau digidol defnyddiol (gan gynnwys ein deunyddiau digidol ein hunain, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, a rhai o ffynonellau allanol) i roi syniadau ar gyfer gwersi diddorol ac atyniadol.

Mae'r Canllawiau Addysgu, ochr yn ochr â'r manylebau a'r deunyddiau asesu enghreifftiol wedi'u cymeradwyo ar gael i'w lawrlwytho o dudalennau'r pynciau canlynol:


Adnoddau addasadwy a Dysgu Proffesiynol RHAD AC AM DDIM

I gefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM. Dechreuon ni gyhoeddi'r deunyddiau o ddiwedd tymor yr hydref, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y cyhoeddiad canlynol

Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gaelyma


Cael y wybodaeth ddiweddaraf 

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.