Syniadau ar gyfer Trefn y Bore i Wella eich Diwrnod: Anelwch at lwyddo

Ar ôl gwyliau'r haf, gall dychwelyd i'r ysgol a threfn gynnar y bore fod yn anodd. Mae darganfod ffyrdd o gadw'n gynhyrchiol drwy gydol y dydd yn hanfodol ar gyfer llwyddo! 

Mae strwythur da i'r bore yn gosod tôn y diwrnod cyfan. Mae’n eich helpu i deimlo'n egnïol ac i ganolbwyntio yn y dosbarth, yn barod i fynd i'r afael ag unrhyw beth sy'n dod  i’ch cyfeiriad chi.  

Dyma ganllaw cam wrth gam ar gyfer trefn berffaith i'r bore, sy'n cynnwys brecwast maethlon, ymarfer corff, a pharatoadau effeithlon ar gyfer yr ysgol. 

1. Deffro'n Gynnar ac yn Gyson 🕒 

Gosod larwm i ddeffro’n gyson yw'r cam cyntaf i fore cynhyrchiol. Dim mwy o gysgu'n hwyr! 
Anelwch at ddeffro o leiaf awr cyn gadael am yr ysgol. Bydd yr amser ychwanegol yma'n caniatáu i chi gwblhau tasgau hanfodol heb frysio. Bydd deffro'n gyson bob dydd yn helpu rheoleiddio cloc mewnol eich corff, gan wneud hi'n haws i ddeffro dros amser. Credwch yn y broses, mae'n gweithio!  

  • Awgrym: Dechreuwch drwy osod eich larwm 15 munud yn gynharach na'r arfer, ac yna'i  gynyddu'n raddol nes i chi ddod o hyd i'ch amser deffro delfrydol. 
  • Awgrym proffesiynol: Osgoi taro'r botwm ‘snooze’! Mae'n amharu ar eich cylchred cysgu ac yn ei gwneud hi'n anoddach i deimlo'n hollol effro. Dewiswch amser i ddeffro... a chadwch ati! 
  • Awgrym ychwanegol: Rhowch eich cloc larwm neu ffôn allan o gyrraedd! Bydd gorfodi eich hun i godi eich hun allan o'r gwely i ddiffodd y larwm yn sicrhau eich bod yn teimlo'n fwy effro ac yn osgoi'r posibilrwydd o syrthio yn ôl i gysgu. 

2. Hydradwch ar Unwaith 💧 

Cyn dechrau ar drefn eich bore, yfwch wydraid o ddŵr. Ar ôl oriau o gwsg, mae angen hydradu eich corff i allu deffro a gweithredu'n gywir. Mae hydradu'r peth cyntaf yn y bore yn rhoi hwb i'ch metabolaeth, yn helpu gyda threuliad, ac yn gwella eich eglurder meddyliol.  

  • Awgrym: Cadwch wydraid o ddŵr wrth ymyl eich gwely, fel mai dyma'r peth cyntaf a welwch chi wrth ddeffro. Ond arhoswch yn ddiogel a chadwch bopeth trydanol allan o'r ffordd rhag ofn i chi daro’r gwydr drosodd!! 

3. Paratowch gyda Brecwast 🍳 Maethlon 🍳 

Rydych chi wedi clywed y cyfan o'r blaen... ond brecwast yw pryd pwysicaf y dydd, yn enwedig i ddysgwyr! Mae pryd o fwyd cytbwys yn rhoi'r egni a'r ffocws angenrheidiol drwy gydol y diwrnod ysgol. Anelwch at frecwast sy'n cynnwys cymysgedd o brotein, brasterau iach a charbohydradau cymhleth i'ch cadw'n llawn ac yn egnïol. 

Syniadau brecwast iach: 

  • Powlen smwddi gydag iogwrt, ffrwythau a hadau chia ar gyfer opsiwn cyflym, sy'n llawn maeth. 
  • Tost grawn cyflawn gydag afocado ac wy wedi'i ferwi ar gyfer cymysgedd cytbwys o carbs a phrotein. 
  • Uwd gyda chnau, aeron, a llwyaid o fenyn pysgnau ar gyfer egni parhaol. 
  • Awgrym: Paratowch eich brecwast y noson gynt os yw'r bore'n hectig. I arbed amser, paratowch geirch dros nos neu rhowch fagiau smwddi sydd wedi'u gwneud ymlaen llaw yn y rhewgell. 

4.  Symudwch o Gwmpas gydag Ymarfer Corff 💪 yn y Bore 💪 

Does dim rhaid aros am eich gwersi Addysg Gorfforol yn yr ysgol er mwyn aros yn actif. Gall cynnwys hyd yn oed 10-15 munud o ymarfer corff yn rhan o’ch  bore roi hwb sylweddol i'ch hwyliau a'ch lefelau egni am weddill y diwrnod. Mae gweithgaredd corfforol yn rhyddhau endorffinau, yn gwella cylchrediad, ac yn eich helpu i deimlo'n fwy effro.  

Does dim angen sesiwn gampfa lawn— gall ymarferion syml fel ymestyn, ioga, neu gyfnod byr o loncian gyflawni gwyrthiau. 

Syniadau ymarfer corff: 

  • 10 munud o ioga yn y bore i ymestyn eich cyhyrau a gwneud eich hun yn fwy ystwyth. Gallwch hyd yn oed wneud hyn yn eich ystafell wely! 
  • Ewch am dro sydyn neu ewch i loncian o amgylch eich stryd. Mae llai o draffig yn y bore a bydd yr awyr iach yn siŵr o'ch deffro! 
  • Ymarferion pwysau corff fel cyrcydu, gwthio i fyny, neu neidio i gael eich gwaed yn pwmpio.  Am fwy o syniadau ymarfer corff fel y rhain, edrychwch ar: Sianel YouTube Joe Wicks. 
  • Awgrym: Paratowch eich dillad ymarfer corff y noson gynt i'w gwneud hi'n haws i ddechrau arni'n syth. 

5. Trefnwch ar gyfer yr Ysgol 📚 

Gall paratoi’n effeithiol ar gyfer yr ysgol leihau straen a'ch helpu i deimlo mwy o reolaeth dros eich diwrnod. Y noson gynt, paciwch eich bag ysgol gyda phopeth y bydd ei angen arnoch ar gyfer y diwrnod, fel llyfrau nodiadau, gwerslyfrau, beiro, a'ch cinio. Yn y bore, adolygwch eich amserlen ysgol, paratowch yn feddyliol ar gyfer eich dosbarthiadau, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau eich holl waith cartref a gwaith cwrs. 

Awgrymiadau ar gyfer Paratoi at yr Ysgol yn y Bore: 

  • Arhoswch yn drefnus drwy adolygu eich rhestr o bethau i'w gwneud ar gyfer y diwrnod. Gall hyn gynnwys offer dosbarth sydd eu hangen arnoch, eich amserlen dosbarth, unrhyw ddigwyddiadau ar ôl ysgol y mae angen i chi eu mynychu... ayyb 
  • Gwiriwch eich bag eto ar gyfer hanfodion: gwaith cartref, gwefrydd, potel ddŵr, tocyn bws ac ati. 
  • Awgrym: Os yw'n well gennych gadw'r holl femos ar eich ffôn, defnyddiwch eich ffôn neu gynllunydd digidol i dracio eich gwaith cwrs, a gosodwch nodiadau atgoffa ar gyfer tasgau a therfynau amser pwysig. 

 

6. Paratowch yn feddyliol ar gyfer y diwrnod 🧘 

Mae diwrnod cynhyrchiol yn dechrau gyda meddwl tawel a chanolbwyntiedig. Cymerwch ychydig funudau bob bore i baratoi'n feddyliol ar gyfer y diwrnod o'ch blaen. Gallai hyn fod trwy fyfyrdod, anadlu'n ddwfn, neu drwy fyfyrio ar yr hyn rydych am ei gyflawni'r tymor hwn.  

Gall hyd yn oed pum munud o ymwybyddiaeth ofalgar helpu i  leihau pryderon a gwella eich gallu i ganolbwyntio drwy gydol y dydd. 

Syniadau ar gyfer paratoi'n feddyliol: 

  • Ymarfer anadlu'n ddwfn: Anadlwch am bedwar cyfrif, dal am bedwar, a rhyddhau am bedwar. 
  • Defnyddiwch ap ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer sesiwn fyfyrio fer. Rwy'n argymell Calm a HeadSpace. 
  • Gosodwch eich bwriadau dyddiol: Meddyliwch am un neu ddau o bethau rydych chi am eu cyflawni neu ganolbwyntio arnyn nhw. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel 'Rwyf am guro fy nharged personol yn y Prawf Blip', 'Rwyf am gofio tair berf arall yn y dosbarth Ffrangeg', neu 'Rwyf am orffen fy holl waith dosbarth cyn i'r gloch ganu ym mhob gwers heddiw’ 
  • Awgrym: Cadwch ddyddiadur neu gyfnodolyn i ysgrifennu eich meddyliau, nodau, neu'r hyn rydych yn ddiolchgar amdano. Mae hyn yn helpu i glirio eich meddwl ac yn gosod tôn gadarnhaol ar gyfer y diwrnod. Nid oes rhaid i unrhyw un ddarllen hwn, mae o AR EICH CYFER CHI'N UNIG. 

7. Gadewch eich Cartref gydag Amser i Sbario 🚶‍♂️ 

Yn sicr, mae rhuthro allan trwy'r drws yn ffordd o ddechrau'r diwrnod gyda straen. Does neb eisiau hynny! 
Anelwch at adael eich cartref ychydig funudau yn gynt nag sydd angen. Mae'r amser ychwanegol hwn yn caniatáu ar gyfer unrhyw oedi annisgwyl fel traffig neu eitemau coll, ac yn gadael i chi gyrraedd yr ysgol gyda meddwl tawel a pharod yn hytrach na rhwystredig.  

Hefyd, mae'r amser ychwanegol hwn yn eich galluogi i ddal i fyny gyda ffrindiau cyn y wers, yn hytrach na sgwrsio yn ystod y wers! 

  • Awgrym: Defnyddiwch yr amser ychwanegol i wrando ar bodlediad, llyfr sain, neu ychydig o gerddoriaeth ysgogol i ennill y meddylfryd cywir ar gyfer y diwrnod. Gwnewch restr chwarae bersonol 'Cerdded i'r Ysgol' i'ch cadw'n egnïol ac yn y meddylfryd cywir.  

Dod â’r Cyfan at ei Gilydd 

Nid yn unig bydd bore trefnus sy'n cynnwys brecwast, ymarfer corff a pharatoadau ar gyfer yr ysgol yn eich helpu i aros yn gynhyrchiol, ond hefyd yn gwella eich llesiant yn gyffredinol. Mae cysondeb yn allweddol.  

Efallai y bydd yn cymryd amser i ddarganfod yr hyn sy'n gweithio orau i chi, ond ar ôl i chi gael rhythm, byddwch yn sylweddoli ar yr hwb sylweddol yn eich lefelau egni, eich gallu i ganolbwyntio a'ch perfformiad yn yr ysgol. 

Dyma eich tymor cyntaf yn ôl, yr adeg gorau i wneud y newidiadau cadarnhaol hyn! 

Dyma esiampl o fore trefnus i chi rhoi cynnig arno:

6:30 AM: Deffro ac yfed dŵr. 

6:40 AM: Ymarfer corff cyflym yn y bore (ioga neu ymarfer pwysau corff ysgafn). 

6:55 AM: Cawod a gwisgo. 

7:10 AM: Bwyta brecwast maethlon. 

7:30 AM: Adolygu tasgau ysgol a phacio eich bag. 

7:45 AM: Paratowch yn feddyliol a gadewch eich cartref erbyn 8:00 AM. (mae hynny’n rhoi bron i hanner awr sbâr I chi cyn i'r gloch ganu!) 

 

Trwy ddilyn y camau hyn, byddwch chi'n gallu dechrau bob dydd gydag eglurder, egni, a hyder— yn barod i goncro unrhyw beth mae'r ysgol yn taflu atoch! 

Pob lwc gyda'r tymor ysgol newydd! Gweithiwch yn galed, cadwch ffocws a gwnewch benderfyniadau meddylgar i sicrhau bod y flwyddyn i ddod yn un lwyddiannus a gwerth chweil.