Sicrhau cydraddoldeb wrth ddatblygu cymwysterau
Ar ein taith i greu cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru, rydym yn ymrwymedig i fwy o lawer na dim ond addasu cymwysterau sy'n bodoli eisoes.
Yn y blog canlynol, mae Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau, yn archwilio sut mae datblygiad TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig yn cynrychioli newid sylfaenol ym myd addysg Cymru, gan roi pwyslais ar degwch, cynhwysiant a chyfatebiaeth â’r Cwricwlwm i Gymru. |
Gwnaethom ddechrau proses gynhwysfawr o ailasesu pob pwnc I sicrhau eu bod yn cydweddu'n well â'r Cwricwlwm i Gymru.
Roedd a wnelo hyn â mwy na dim ond eu diweddaru - roedd yn golygu datblygu egwyddorion a chanllawiau sy'n gysylltiedig ag ethos y cwricwlwm newydd ac arferion da wrth asesu, fel y gallwn baratoi dysgwyr yn briodol ar gyfer y dyfodol.
Deall y meini prawf cymeradwyo
O'r dechrau'n deg, roedd deall y meini prawf cymeradwyo manwl ar gyfer pob pwnc yn hanfodol. Chwaraeodd ein Swyddogion Pwnc a'n Swyddogion Datblygu Cymwysterau ran hollbwysig yn y broses hon drwy fod yn aelodau o Weithgorau Lefel Pwnc Cymwysterau Cymru, a drwy hyn, llwyddom i fodloni'r gofynion technegol ynghyd â mynd i'r afael â'r nodau addysgol ehangach sy'n rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Galluogodd hyn ni i ganolbwyntio ar y darlun mawr a'r manylion bach sy'n sicrhau profiad addysgol cynhwysfawr.
Defnyddio dull o gyd-awduro
Roedd cyd-awduro yn rhan ganolog o'n dull gweithredu – ymdrech ar y cyd a oedd yn cynnwys set amrywiol o randdeiliaid. Drwy gynnwys athrawon wrth eu gwaith fel awduron ac adolygwyr ar gyfer pob pwnc, rydym wedi llwyddo i ddod i ddeall eu profiadau go iawn yn yr ystafell ddosbarth er mwyn sicrhau bod ein cymwysterau yn ymarferol ac yn berthnasol. Yn yr un modd, mae gan ein Grwpiau Cynghori gynrychiolaeth sylweddol o athrawon o amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys rhai cyfrwng Cymraeg.Mae'r grwpiau hyn hefyd yn cynnwys lleisiau o addysg uwch, consortia a chymdeithasau proffesiynol.
Mae'r ymdrech gydweithredol hon wedi cyfoethogi ein cymwysterau, gan sicrhau eu bod yn ddilys ac yn ystyrlon. Rydym wedi cael cysylltiadau cryf â'r proffesiwn addysgu bob amser, ac rydym wedi mynd ati o ddifrif i adeiladu ar y sylfaen honno yma.
Mae'r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, sy'n cefnogi'r cwriwclwm, yn fwy na dim ond cerrig milltir academaidd – maent yn adeiladu ar wersi a ddysgwyd yn flaenorol ac yn sefydlu sylfaen gref o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, gan alluogi dysgwyr i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau. Drwy ganolbwyntio ar degwch, cynwysoldeb a dyheadau addysgol eang, rydym yn falch o fod wedi datblygu cymwysterau sy'n berthnasol, yn deg ac yn gefnogol i bob dysgwr.
Canfod ein hegwyddor arwain
Wrth wraidd ein proses o ddatblygu cymwysterau roedd yr angen isefydlu egwyddor arwain a fyddai'n ein tywys drwy'r gwahanol heriausy’n cystadlu â’i gilydd, yn enwedig asesiadau di-arholiad. Gwelwydcynnydd amlwg mewn asesiadau di-arholiad yn y gyfres newydd ogymwysterau, gan gwmpasu pob pwnc heblaw mathemateg achyfrifiadureg. Mae hyn yn cynnwys ehangu asesiadau di-arholiadmewn pynciau lle roeddent yn bodoli eisoes a'u cyflwyno i bynciau llenad oeddent wedi'u cynnwys yn flaenorol.
Canfod ein hegwyddor arwain
Wrth wraidd ein proses o ddatblygu cymwysterau roedd yr angen i sefydlu egwyddor arwain a fyddai'n ein tywys drwy'r gwahanol heriau sy’n cystadlu â’i gilydd, yn enwedig asesiadau di-arholiad. Gwelwyd cynnydd amlwg mewn asesiadau di-arholiad yn y gyfres newydd o gymwysterau, gan gwmpasu pob pwnc heblaw mathemateg a chyfrifiadureg. Mae hyn yn cynnwys ehangu asesiadau di-arholiad mewn pynciau lle roeddent yn bodoli eisoes a'u cyflwyno i bynciau lle nad oeddent wedi'u cynnwys yn flaenorol.
Yn gynnar yn y broses, gwnaethom sefydlu grŵp cynghori cyffredinol yn cynnwys arweinwyr ysgolion a'n hymgynghorydd gwrth-hiliaeth. Gwnaethom hefyd ofyn am gymorth ein Grŵp Cynghori Dysgwyr, a roddodd fewnbwn eithriadol o werthfawr a lywiodd y ffordd y gwnaethom ddatblygu ein cymwysterau. Drwy wrando ar leisiau dysgwyr, gwnaethom sicrhau y byddai ein cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd yn berthnasol ac yn ddifyr o safbwynt dysgwyr, gan fynd i'r afael yn uniongyrchol â'u hanghenion a'u dyheadau.
Roedd y grwpiau hyn yn allweddol yn ein helpu i benderfynu mai “tegwch i ddysgwyr” fyddai ein hegwyddor arweiniol ganolog. Daeth tegwch i ddysgwyr yn rhan hanfodol o'n proses ddatblygu, gan sicrhau bod pob dysgwr, ni waeth beth fo'i gefndir, yn cael cyfleoedd teg a chyfartal. Roedd yr egwyddor hon yn arbennig o hanfodol wrth fynd i'r afael â gofynion amrywiol pynciau gwahanol. Galluogodd ni i fynd i'r afael â phryderon am asesu, llwyth gwaith a hyblygrwydd mewn ffordd sy'n rhoi blaenoriaeth i degwch.
Sicrhau cynwysoldeb a chynrychiolaeth
Mae cynwysoldeb wedi bod yn ganolog i'n proses ddatblygu. Mewn partneriaeth â DARPL, gwnaethom integreiddio safbwyntiau amrywiol a gwrth-hiliol o'r cychwyn cyntaf. Roedd yr ymdrech gydweithredol hon yn sicrhau bod ein cymwysterau yn bodloni safonau academaidd trylwyr yn ogystal â dathlu'r amrywiaeth gyfoethog o brofiadau a chefndiroedd ymhlith dysgwyr ledled Cymru.
Ar y dechrau, gwnaethom gynnwys ymgynghorydd gwrth-hiliol a wnaeth ein tywys drwy'r broses, gan gyfrannu at y gwaith o ddatblygu rhaglen hyfforddiant wedi'i theilwra i bawb sy'n rhan o'r broses o ddatblygu cymwysterau. Roedd eu dirnadaeth a'u cyfranogiad yn ystod ein grŵp rhanddeiliaid yn hanfodol bwysig wrth benderfynu ar destun ac ymdriniaeth, gan sicrhau bod ein cymwysterau'n adlewyrchu ac yn croesawu cynhwysiant yn ddiffuant.
Cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru
Yn y bôn, mae'r cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd hyn wedi'u cynllunio i gefnogi fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, gan helpu dysgwyr i ddatblygu tuag at y pedwar diben wrth astudio ar gyfer eu cymwysterau.
Mae egwyddorion cynnydd, ynghyd â datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a sgiliau a chysyniadau pwnc-benodol, yn ganolog i'n cynllun. Buom yn chwilio am gyfleoedd i athrawon gynnwys themâu trawsgwricwlaidd a sgiliau cyfannol yn eu haddysgu wrth gyflwyno'r cymwysterau er mwyn sicrhau profiadau dysgu ehangach, gan hyrwyddo addysg gyflawn.
Mae'r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, sy'n cefnogi'r cwriwclwm, yn fwy na dim ond cerrig milltir academaidd – maent yn adeiladu ar wersi a ddysgwyd yn flaenorol ac yn sefydlu sylfaen gref o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, gan alluogi dysgwyr i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau. Drwy ganolbwyntio ar degwch, cynwysoldeb a dyheadau addysgol eang, rydym yn falch o fod wedi datblygu cymwysterau sy'n berthnasol, yn deg ac yn gefnogol i bob dysgwr.