Sefydliad blaenllaw o Brydain yn cefnogi menter genedlaethol i wella dylunio arloesol
Rydym wrth ein bodd yn datgelu y bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac Aston Martin yn noddi ein Gwobrau Arloesedd nodedig, lle mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru yn derbyn gwobrau am eu syniadau a'u dyluniadau gwreiddiol.
Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae’n bodoli er mwyn gwthio gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn ei blaen o gael rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel y gall pobl Cymru fod yn falch ohono.
Wrth sôn am y cyfranogiad hwn, dywedodd Jade McIntosh, Arweinydd Sefydliadol Strategol, TrC: “Rydym wedi dewis noddi Gwobrau Arloesedd CBAC gan ei fod yn cyd-fynd yn llwyr â'n gwerthoedd yma yn TrC a'n hymrwymiad i ddatblygiad parhaus pobl ifanc yng Nghymru. Ni allai ein taith i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig ledled Cymru fod yn bosibl heb feddyliau arloesol, creadigol y rhai o'n cwmpas. Rydym mor ddiolchgar o allu cyfrannu a chefnogi pobl ifanc yng Nghymru a dathlu eu cyflawniadau. Rydym yn edrych ymlaen at fynychu ein seremoni wobrwyo gyntaf ac at weld canlyniadau gwaith caled pawb.”
Ychwanegodd Jason Cates, ein Swyddog Pwnc Dylunio a Thechnoleg: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth gyffrous newydd gyda TrC. Mae ein cenhadaeth yn ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr yn cyrraedd eu potensial, a thrwy gysylltu ac annog cydweithredu ymhlith busnesau a sefydliadau, gallwn rymuso ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, gan eu galluogi i ymarfer eu sgiliau creadigol – sy'n hanfodol i'w llwyddiant mewn addysg a gwaith. Edrychwn ymlaen at y daith gyffrous o'n blaenau!”
Aston Martin
Mae Aston Martin yn cael ei gydnabod fel brand byd-eang eiconig sy'n adnabyddus am steil, moethusrwydd, perfformiad ac am fod yn unigryw. Mae'r gwneuthurwr o Brydain yn cyfuno'r dechnoleg ddiweddaraf, crefftwaith a ddatblygwyd dros amser a steilio gosgeiddig i gynhyrchu amrywiaeth o geir adnabyddus.
Dywedodd Steffan Edwards, ein Cyfarwyddwr Gweithredol: Datblygu Busnes: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â dyfeiswyr arloesol gyda thechnoleg arloesol, sy'n cyfleu ethos y Gwobrau Arloesedd Mae'r cydweithio hwn yn dyst i'n hymrwymiad cyffredin i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, dathlu arloesedd, a meithrin ysbryd penderfynol.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Aston Martin: “Rydym yn falch o noddi Gwobrau Arloesedd eleni. Mae Aston Martin yn ysgogi trawsnewid gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, ac mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cyd-fynd â'n cenhadaeth i gefnogi dylunwyr a datblygwyr newydd, sy'n angerddol am eu crefft. Mae hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo gyrfaoedd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg ac annog myfyrwyr i archwilio rolau swyddi Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg sy'n bodoli gydag Aston Martin. Trwy weithio mewn partneriaeth â CBAC, rydym yn gobeithio annog myfyrwyr i fod yn dechnolegol arloesol a gwerthfawrogi pwysigrwydd dylunio a thechnoleg. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu cyflawniadau anhygoel dysgwyr Dylunio a Thechnoleg!”
Am y Gwobrau
Mae’r Gwobrau Arloesedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y goreuon o ran creadigrwydd a gwaith dylunio o blith y nifer mawr o fyfyrwyr dawnus sydd gennym yng Nghymru. Mae'r ceisiadau ar agor i fyfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru, lle rydym yn dathlu ac yn gwobrwyo'r gwaith project mwyaf gwreiddiol.
Bydd gwaith yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael ei ddangos mewn arddangosfa yng Nghaerdydd a Bangor. Bydd yr arddangosfeydd ar agor i bob ysgol/coleg ledled Cymru, er mwyn iddynt gael eu hysbrydoli gan waith dysgwyr presennol. Yn dilyn hyn bydd seremoni wobrwyo fawreddog yn cael ei chynnal, lle bydd yr enillwyr yn cael eu gwobrwyo.
- Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd, 30 Medi a 1 Hydref 2024
- Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, 7 Hydref 2024
Dysgwch fwy am y Gwobrau Arloesedd yma.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch:
X: @cbac_wjec
Facebook: CBAC / WJEC
Instagram: @cbacifyfyrwyr