O Gymru i Sbaen: Myfyrwyr Addysg Bellach yn teithio i Barcelona
Ysgrifennwyd gan: Sophie Williams Darlithydd Safon Uwch, |
Ddechrau mis Gorffennaf, aeth myfyrwyr Safon Uwch o Goleg Sir Gâr, De Cymru, i Barcelona am bum niwrnod i weithio gyda'r cwmni blaenllaw NexGen. Mae'r holl fyfyrwyr a fynychodd y daith ar hyn o bryd yn astudio Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ochr yn ochr â'u dewis bynciau Safon Uwch penodol. Rhoddodd y daith y cyfle i'r myfyrwyr fireinio eu sgiliau a gwerthuso eu llwybrau gyrfa, diddordebau a gwerthoedd eu hunain trwy gyfres o weithdai. Hefyd, cydweithiodd y dysgwyr er mwyn cwblhau briff penodol ar gyfer cwmnïau ledled y byd. Bu profiad NexGen o weithio gyda nifer o golegau addysg bellach ar draws Cymru yn fuddiol iawn wrth helpu i fagu hyder ymhlith dysgwyr, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y byd gwaith sy'n newid yn barhaus. Ynghyd â hyn, profodd y dysgwyr gyfoeth diwylliannol Barcelona, gan ymweld â lle ar gyfer rhannu mannau gwaith Betahaus i ddysgu am sut mae hyd yn oed y lleoliad a'r mannau yr ydym yn gweithio ynddynt yn esblygu'n barhaus. |
Datblygu sgiliau; creu dysgwyr gydol oes Roedd ethos a nod trosfwaol NexGen i 'greu gweithlu'r genhedlaeth nesaf' yn thema sylfaenol a oedd yn sail i'r pum diwrnod. Gyda'r byd gwaith yn datblygu'n barhaus, anogwyd y dysgwyr i werthfawrogi'r byd y maen nhw'n byw ynddo ar hyn o bryd, eu rôl o fewn hyn a sut y bydd y sefyllfa'n edrych yn y dyfodol. Wrth wraidd y gweithdai roedd y ffocws ar sut mae myfyrwyr yn ystyried eu hunain, eu gwerthoedd a ble hoffent gyfrannu at wneud gwahaniaeth yn y dyfodol. Gan ymgorffori fframwaith EX3 Archwilio, Chwilota a Phrofi (Examine, Explore and Experience) NexGen, roedd dysgwyr yn gallu nodi'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw fel unigolion, archwilio llwybrau sy'n ymwneud yn benodol â'u gwerthoedd a chael profiad amhrisiadwy yn gweithio gyda chwmnïau i gyflawni canlyniad a ddymunwyd. Yn ogystal â hyn, mae fframwaith ac ethos NexGen wedi'u cynllunio i annog pobl ifanc i gydnabod eu rôl o fewn eu cymunedau ehangach ac yn y gymdeithas ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Mae'r dull cyfannol hwn o edrych ar y byd gwaith yn integreiddio sgiliau a gwerthoedd sy'n hollbwysig wrth siapio dysgwyr gydol oes, yn debyg iawn i nod Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd. |
|
Sbaen, Cymru a'r Fagloriaeth Sgiliau Uwch Yng Nghymru, mae'r mwyafrif o fyfyrwyr addysg bellach yn ymgymryd â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSC Uwch) fel rhan o'u rhaglen astudio. Gyda diwygiad y rhaglen ym mis Medi 2023, daeth agwedd newydd at feddwl am sut mae sefydliadau addysgol yn datblygu sgiliau a rhinweddau hanfodol ymhlith eu dysgwyr. Mae strwythur BSC Uwch wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu sgiliau dysgwyr a fydd yn hollbwysig wrth iddynt gychwyn astudiaethau pellach neu gamu i'r byd gwaith. Yn Barcelona, cafodd y dysgwyr nifer fawr o gyfleoedd i ddatblygu eu set sgiliau a oedd yn mynd i'r afael â phedwar sgil cyfannol BSC Uwch. Roedd y rhain yn cynnwys meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesi, cynllunio a threfnu ac effeithiolrwydd personol; elfennau sy'n cyfateb yn uniongyrchol i'r cymhwyster. Dros yr wythnos, braf oedd gweld y dysgwyr yn magu hyder wrth iddynt ddechrau gwerthfawrogi sut mae'r sgiliau cyfannol hyn yn rhan o bob agwedd ar eu hastudiaethau, cynlluniau'r dyfodol ac ar raddfa fyd-eang ehangach. Roedd cyd-destun dysgu'r BSC Uwch (integreiddio nodau cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a Nodau Llesiant Cymru) hefyd yn chwarae rôl allweddol dros gyfnod y dysgwyr yn Barcelona - nid yn unig yn y gweithdai ond hefyd wrth ystyried arwyddocâd diwylliannol y syniadau hyn. Pan oedd dysgwyr yn cwblhau eu projectau ar gyfer eu cwmni, roedd Nodau'r Cenhedloedd Unedig yn agwedd hanfodol y bu'n rhaid iddynt ei hystyried, yn debyg iawn i’r hyn maen nhw'n ei wneud yn y Project Cymuned Byd-eang. Wrth gwrs, mae fframwaith dylunio gyrfaoedd NexGen hefyd yn ategu’r Project Cyrchfannau'r Dyfodol ac roedd yn braf gweld dysgwyr yn ystyried llwybrau gwahanol ac yn dod i werthfawrogi pa mor amrywiol y gallai eu byd gwaith fod. Nid ar chwarae bach oedd datblygu'r sgiliau a'r gwaith meddwl a oedd ei angen ar gyfer y rhain drwy gydol yr wythnos. Ynghyd ag ystyried eu set sgiliau ehangach a sut mae'n ymwneud â'u gyrfaoedd yn y dyfodol, anogwyd y dysgwyr i wneud hynny fel rhan o ddull NexGen o ddysgu, a chwaraeodd ran allweddol wrth wneud yr ymweliad yn bleserus ac yn llwyddiannus. |
|
Y dysgwyr (o'r chwith i'r dde) Ffion Jones, Jemimah Norton a Madeleine Moore yn cyflwyno eu syniad terfynol ar gyfer eu cwmni, Rally, i'r panel |
Pan ofynnwyd iddi edrych yn ôl dros ei hamser yn Barcelona, dywedodd y dysgwr Madeleine Moore "mae'r holl brofiad wedi gwella fy ngallu i weithio gydag eraill, datblygu fy sgiliau cyfathrebu ac yn gyffredinol wedi magu fy hyder. Roedd yn rhaid i ni lunio menter ar gyfer cwmni gan ystyried yr holl elfennau hyn a sicrhau ein bod yn gallu bodloni briff y cwmni". Hefyd, gofynnwyd i Madeleine sut mae’r profiad wedi helpu i siapio ei gwaith ar gyfer ei phrojectau BSC Uwch a dywedodd fod "gan NexGen a’r gweithdai nodweddion ac agweddau tebyg i Broject Cyrchfannau’r Dyfodol felly roedd hynny’n hynod ddefnyddiol a pherthnasol. Roedd yn brofiad amhrisiadwy ac mae wedi fy helpu'n fawr i werthfawrogi sut mae BSC Uwch yn rhoi'r cyfle i ni ddatblygu'r sgiliau hanfodol hynny y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt, gan hefyd ddeall ein lle fel dinasyddion byd-eang". |
Felly, p'un a yw ein pobl ifanc yn cymryd rhan mewn projectau ar gyfer cwmnïau byd-eang gan weithio o Barcelona, neu os ydynt yng Nghymru yn gweithio tuag at gyflawni eu cymhwyster BSC Uwch, yr un yw'r ffocws: darparu'r sgiliau, y rhinweddau a'r gwerthoedd y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn dyfodol heriol ond cyffrous. |