Manylebau Drafft Gwneud-i-Gymru ar gael yn awr

Manylebau Drafft Gwneud-i-Gymru ar gael yn awr

Yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau, rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ein manylebau drafft ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru ar gael i'w lawrlwytho. Mae'r 16 o fanylebau drafft hyn wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru eu cymeradwyo a byddant ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2025 ymlaen.

Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Datblygu Cymwysterau (Cymwysterau Cyffredinol) CBAC, wrth sôn am y gamp sylweddol hon: “Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi ein manylebau drafft ar gyfer y cymwysterau newydd cyffrous hyn. Rwy'n ddiolchgar i'n hawduron ac adolygwyr, ein grwpiau cynghori, timau'r pynciau a'n Tîm Datblygu Cymwysterau am eu cyfranogiad gweithredol sydd wedi cefnogi datblygiad y cymwysterau hyn.

Drwy gydol y broses ddatblygu, rydyn ni wedi ymgysylltu a gwrando ar amrywiaeth eang o randdeiliaid ac o'r farn y bydd pob cymhwyster yn cefnogi system addysgol fodern, gynhwysol ac amrywiol sy'n adlewyrchu a chefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae pob cymhwyster wedi'i gynllunio i ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ar draws Cymru, gan roi cyfleoedd newydd ac wedi'u diweddaru iddynt i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ffynnu mewn marchnad fyd-eang."

Mae ein manylebau drafft, a gynlluniwyd i fodloni Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau Cymru, ar gael i'w gweld ar y dudalen pwnc: 

Dyma'r ail gyflwyniadau i Cymwysterau Cymru, ond nid ydynt wedi'u cymeradwyo eto. Fodd bynnag, rydyn ni'n annog athrawon i'w hadolygu gan eu bod yn dangos cynnwys a strwythur asesu pob cymhwyster. Bydd y manylebau terfynol a gymeradwyir yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi.

Noder, na fydd y fanyleb ddrafft TGAU Astudiaethau Crefyddol ar gael yn ystod tymor yr haf. Nid yw’r cynnwys wedi cyrraedd y pwynt, ar y cam hwn o’r broses gymeradwyo, lle byddai’n ddefnyddiol i athrawon weld y fanyleb ddrafft. Hoffem eich sicrhau ein bod wedi ymroi’n llwyr o hyd i gyhoeddi’r fanyleb TGAU Astudiaethau Crefyddol wedi’i chymeradwyo erbyn 30 Medi 2024 fan bellaf.


Cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru

Datblygwyd y cymwysterau gyda Cwricwlwm i Gymru mewn cof. Fodd bynnag, ni fydd hyn i gyd i'w weld yn y fanyleb gan mai dim ond rhan gyntaf y jig-so yw hynny. Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol.

Yn ogystal, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesu ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau.


Dysgu Proffesiynol  ac Adnoddau RHAD AC AM DDIM

Datgelwyd yn ddiweddar y byddwn yn cyhoeddi ein pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM i gefnogi'r cymwysterau hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y cyhoeddiad canlynol.

Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.


Cael y wybodaeth ddiweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.