Mae ceisiadau ar gyfer y 11eg Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol AR AGOR
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobrau Delwedd Symudol 2025 ar agor. Mae'r gwobrau yn cydnabod y myfyrwyr ffilm a chyfryngau CBAC gorau ar draws y DU a thramor mewn categorïau fel Ffilm Fer/Darn o Deledu i Fideo Cerddoriaeth a mwy. Mae wedi ennill cefnogaeth gan athrawon a darlithwyr mewn amrywiaeth o sefydliadau, yn ogystal â gan ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm.
Bydd y seremoni wobrwyo unigryw, sy'n cael ei threfnu gan CBAC/Eduqas ar y cyd â'r British Film Institute (BFI), yn digwydd ar-lein ym mis Chwefror 2025 a bydd nifer o ffigyrau blaenllaw o'r diwydiant ffilm yn rhan ohoni.
Dr. Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm: "Rydym yn croesawu'r cyfle i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled a chyflawniadau myfyrwyr Ffilm a Chyfryngau CBAC Eduqas o bob rhan o Gymru a Lloegr. Bob blwyddyn gwneir argraff fawr arnom gan y gwaith delwedd symudol a chredwn na fydd eleni'n wahanol. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau a dathlu gwaith caled ac arloesedd gwneuthurwyr ffilmiau ifanc eleni.
Categorïau
Rydym yn gwobrwyo 5 categori, sy'n cynnwys:
-
Animeiddiad Gorau
-
Fideo Cerddoriaeth Gorau
-
Sgript Ffilm Orau
-
Darn Teledu/Ffilm Gorau
-
Ffilm Fer Orau
I weld ceisiadau blaenorol a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer a'r rhai a enillodd, ewch i'n sianel YouTube.
Gwnewch gais heddiw I wneud cais, llenwch y ffurflen gais a'i chyflwyno i ni erbyn 30 Medi 2024. Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Delwedd Symudol 2025 bellach wedi cau. |