Mae arnom eich angen chi! Ymunwch â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr heddiw
Credwn ei bod yn bwysig gwrando ar leisiau ein dysgwyr. Felly, wrth i ni fynd ati i ddatblygu'r TGAU newydd a chymwysterau perthynol yn rhan o broject Cymwysterau Cymru "Cymwys ar gyfer y Dyfodol”, rydym yn chwilio am ddysgwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr.
Mewn sylw am y grŵp cynghori newydd hwn, dywedodd Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand yn CBAC: "Y dysgwyr sy'n holl bwysig i bopeth rydym yn ei wneud. Wrth i ni fynd ati i gyd-awduro'r cymwysterau newydd hyn, teimlwn ei bod yn hynod o bwysig cael clywed eu barn nhw yn ystod y broses ddatblygu. Dyma gyfle gwych i ddysgwyr o Gymru gyfan i roi adborth ar ein syniadau ac i ddod i ddeall sut mae proses ddatblygu ein cymwysterau yn digwydd."
Pam ymuno â'n Grŵp Cynghori Dysgwyr?
Mae aelodau'r Grŵp Cynghori Dysgwyr yn ganolog i ddatblygiad ein cymwysterau. Yn y rôl hon, bydd disgwyl i aelodau wneud rhai neu bob un o’r canlynol:
- Rhoi eich barn am ddylunio cymwysterau.
- Cyfrannu o safbwynt dysgwr.
- Cymryd rhan mewn trafodaethau ychwanegol ynghylch cynhyrchion CBAC e.e. cynnwys gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac i ddysgwyr.
Sut byddwch chi'n cael budd o hyn?
Byddwch chi nid yn unig yn helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru drwy fod yn aelod o'n Grŵp Cynghori Dysgwyr ond hefyd yn gallu cael budd o sawl peth gan gynnwys:
- Cwrdd â myfyrwyr o wahanol rannau o Gymru a gweithio gyda'n Tîm Datblygu Cymwysterau cyfeillgar.
- Defnyddio a datblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a'ch sgiliau cyfathrebu.
- Datblygu eich sgiliau rheoli amser.
- Ychwanegu'r cyfle hwn at eich datganiad personol a chyfeirio ato yn eich cyfweliadau nesaf!
- Derbyn taleb rhodd Amazon gwerth £20.
Pwy sy'n gymwys?
Gallwch chi fod yn aelod os ydych chi'n:
- Ddysgwr rhwng 14 ac 19 oed sy'n dilyn amrywiaeth o raglenni dysgu.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac awydd i gyfrannu at drafodaeth.
Sut i wneud cais:
Rydym bellach wedi cau ein porth cyflwyno ceisiadau ar gyfer y Grŵp Cynghori Dysgwyr. Diolch i bawb sydd wedi gwneud cais.
Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus yn fuan i drafod y camau nesaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’n Grŵp Cynghori Dysgwyr nesaf, cysylltwch â Gwen ar y cyfeiriad e-bost canlynol: gwenda.matthews@wjec.co.uk