Llywio'r dyfodol: Darganfod cymhwyster Lled-ddargludyddion cyntaf Cymru gyda CBAC a CSconnected

Mae cymhwyster newydd CBAC Cyflwyniad i Dechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch (Lled-ddargludyddion) bellach ar gael i'w addysgu.

Mae'r cymhwyster arloesol newydd hwn wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth ag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant gan gynnwys CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, gyda'r nod o uwchsgilio'r gweithlu yng Nghymru.

Brandon Jones, Rheolwr Sgiliau yn CSconnected, sy'n esbonio pwysigrwydd lled-ddargludyddion, rôl arloesol Cymru yn y diwydiant a sut gallai'r cymhwyster newydd hwn fod o fudd i ddysgwyr:


"Mae lled-ddargludyddion wrth wraidd unrhyw dechnoleg fodern. Deunyddiau unigryw ydyn nhw sy'n rheoli ceryntau trydanol, ac sy'n golygu eu bod yn greiddiol i'r holl ddyfeisiau trydanol rydyn ni'n ddibynnol arnynt heddiw, bron â bod – o ffonau clyfar i gyfrifiaduron, a hyd yn oed dyfeisiau meddygol sy'n achub bywydau a systemau egni glân.

Cymru a Lled-ddargludyddion

Mae Cymru'n gartref i'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd, a gynrychiolir gan CSconnected. Rydym ar y blaen pan mae'n dod i dechnolegau lled-ddargludyddion, gan greu amgylchedd cydweithredol sy'n gosod Cymru fel arweinydd yn y diwydiant.

Mae hyn yn rhoi mantais i ni gyda thechnolegau newydd fel 5G, cerbydau trydan, a thechnoleg gofal iechyd. Nid cymryd rhan yn unig ydyn ni – ni sy'n arwain y diwydiant.

Gyda'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn tyfu'n gyflym, mae brys i gael gweithlu medrus tu hwnt. Ar hyn o bryd mae Cymru'n cefnogi tua 2,600 o swyddi – nifer y mae disgwyl iddo ddyblu dros y pum mlynedd nesaf wrth i'r diwydiant ehangu.

Rôl cymhwyster newydd CBAC

Mae cymhwyster newydd CBAC Cyflwyniad i Dechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch (Lled-ddargludyddion) yn hanfodol ar gyfer datblygu talent ac i fynd bob yn gam â'r galw byd-eang.

Ei bwrpas yw grymuso ac argyhoeddi'r genhedlaeth nesaf mai'r diwydiant hwn yw'r sylfaen ar gyfer technolegau'r dyfodol. Mae buddsoddi mewn addysg nawr yn sicrhau rôl Cymru fel canolbwynt cystadleuol ar gyfer arloesi yn y maes uwch-dechnoleg, ac mae'n sicrhau dyfodol i'w gyrfaoedd.

Mae'r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer rhai sy'n gadael yr ysgol, unigolion sydd megis dechrau ar eu gyrfaoedd, neu unrhyw un sy'n gobeithio uwchsgilio mewn maes uwch-dechnolegol. Fel arfer mae'n cael ei gwblhau dros ychydig fisoedd ac mae ar gael ar Lefel 2, gan gynnig cydbwysedd o ran hygyrchedd a her.

Mae'n rhoi'r wybodaeth sylfaenol a'r sgiliau ymarferol i ddysgwyr sydd eu hangen arnyn nhw yn yr amgylchedd weithgynhyrchu uwch, yn enwedig y diwydiant lled-ddargludyddion.

Bydd dysgwyr yn cael mewnwelediad i raglenni arloesol ac ymarferol yn y diwydiant lled-ddargludyddion, gan archwilio roboteg, awtomeiddio a gwyddor defnyddiau. Byddan nhw hefyd yn datblygu eu gallu i feddwl yn feirniadol ac i ddatrys problemau, gan ennill gwerthfawrogiad o safonau'r diwydiant a sgiliau gwerthfawr.

Mae'r cymhwyster yn agor drysau i gyfoeth o gyfleoedd ar draws y diwydiant, gan gynnwys prentisiaethau, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC), a mynediad uniongyrchol i raglenni gradd llawn amser. Mae cymhwyster CBAC uwch ar y ffordd hefyd, sef cymhwyster Lefel 4 Technegol Uwch ar gyfer Technegwyr Lled-ddargludyddion. Mae'n darparu arbenigedd o ran gweithgynhyrchu, rheoli ansawdd, a chynnal a chadw cyfarpar o few y diwydiant lled-ddargludyddion.

Wrth i'r diwydiant dyfu, felly hefyd mae'r galw am y rolau medrus hyn, sy'n golygu bod y cymhwyster hwn yn llwybr at lwybr gyrfa dynamig.

Rôl CSconnected yn y maes addysg

Mae rôl CSconnected wedi bod yn hanfodol wrth lunio'r cymhwyster hwn. Rydym wedi cydweithio'n agos â CBAC a chyrff eraill ar draws y wlad i sicrhau bod y cymhwyster yn bodloni anghenion ein partneriaid gan hefyd osod y sylfeini ar gyfer gweithlu'r dyfodol.

Mae ein cyfraniad wedi galluogi dysgwyr i elwa o brofiad ymarferol yn y byd go iawn drwy bartneriaethau yn y diwydiant, a rhyngweithio uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol. Ein tasg ni, gyda’n gilydd, yw sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol ac yn parhau i fod yn berthnasol yn y dyfodol.

Mae hynny wedyn yn cyfrannu at dwf y diwydiant a hefyd yn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol."

Oes gennych chi ddiddordeb cyflwyno'r cymhwyster hwn? Cysylltwch â ni drwy dyfodol@cbac.co.uk