Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau Tachwedd 2024 heddiw
Heddiw, bydd dysgwyr ledled Cymru yn casglu eu canlyniadau dros dro ar gyfer cyfres arholiadau TGAU Tachwedd.
Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr sy’n casglu eu canlyniadau heddiw. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’w hastudiaethau.
Ar ran CBAC, hoffwn hefyd ddiolch i’w hathrawon, eu darlithwyr a’r timau sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau ledled eu gwlad am eu hymroddiad i sicrhau y gall eu myfyrwyr gyflawni eu potensial yn llawn."
Canlyniadau Dros Dro
Cyhoeddwyd canlyniadau ar gyfer y TGAU canlynol:
- Cymraeg Iaith
- Mathemateg
- Mathemateg – Rhifedd
- Saesneg Iaith
Gallwch weld y canlyniadau dros dro ar ein tudalen gwe Canlyniadau a Ffiniau Graddau.
Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau ac Apeliadau
Os yw dysgwr am gwestiynu'r marc a dderbyniodd, yna rydym yn ei gynghori i ddarllen yr arweiniad sydd ar gael ar y dudalen we ganlynol. Rhaid cyflwyno unrhyw gais drwy'r ysgol/coleg a byddan nhw'n gallu cynghori ynghylch y camau nesaf.
Noder, gall ymgeiswyr preifat gysylltu'n uniongyrchol â'n timau i wneud cais am y gwasanaethau a nodir uchod.
Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102