Ian Morgan, Prif Weithredwr i gyflwyno prif araith ar ddiwygio cymwysterau 14-16 yng Nghymru
Bydd y digwyddiad Fforwm Polisïau Cymru yn ystyried y camau nesaf wrth ddiwygio cymwysterau 14-16 yng Nghymru. Bydd Ian yn arwain sesiwn ar y broses o ddylunio a rhoi ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru ar waith. |
Mewn sylw ar gymryd rhan yn y gynhadledd flaenllaw hon, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Fel y corff dyfarnu blaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn datblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, gan gymryd gofal wrth i’r gwaith dylunio ddigwydd i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru.
Rydym yn mabwysiadu dull cyd-awduro wrth ddatblygu ac yn sicrhau bod lleisiau o bob rhan o Gymru yn cael eu clywed a'u hystyried.
Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi ein Hamlinelliadau o'r Cymwysterau, a fydd yn sail ar gyfer datblygu ein manylebau. Rydym yn hyderus y bydd ein cymwysterau newydd yn rhoi cyfleoedd dysgu unigryw i ddysgwyr wella eu gwybodaeth a'u sgiliau i'w galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang.
Yn ogystal, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 yn ddiweddar, ac yn seiliedig ar ein profiad o ddarparu cymwysterau sy'n seiliedig ar sgiliau, fel y Tystysgrifau Her Sgiliau, mae ein timau'n hyderus y gallwn wella ein cynnig i ehangu profiadau dysgu dysgwyr.
Edrychaf ymlaen at rannu mwy yng nghynhadledd Fforwm Polisïau Cymru a chymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon adeiladol pellach."
Bydd Ian yn arwain sesiwn dan y teitl 'Ystyried y broses ddylunio a rhoi cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru ar waith', lle bydd yn ystyried dull CBAC o ddatblygu cyfres o gymwysterau TGAU newydd, a fydd ar gael i’w haddysgu gan ganolfannau o fis Medi 2025.
Cynnwys y Gynhadledd
Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 12 Mawrth, ac yn canolbwyntio ar roi’r cymwysterau 14-16 newydd yng Nghymru ar waith, gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer cyflwyno ac asesu.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys prif sesiynau gan Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru, ac Alex Ingram, Pennaeth Asesu Cymwysterau, Llywodraeth Cymru.
Bydd cynrychiolwyr yn trafod canfyddiadau allweddol o adroddiad ymgynghori diweddar Cymwysterau Cymru, yn ogystal â sut y gall diwygio parhaus ddarparu cymwysterau sy'n cyd-fynd ag ehangder cynyddol y Cwricwlwm newydd i Gymru, a chefnogi dysgwyr ar gyfer gwaith a bywyd.
I archebu eich lle, ewch i wefan Fforwm Polisïau Cymru.