Haf 2022: Cymwysterau Cymru yn cadarnhau ei ddull graddio

Haf 2022: Cymwysterau Cymru yn cadarnhau ei ddull graddio

Heddiw, cadarnhaodd Cymwysterau Cymru ei ddull graddio a chynlluniau wrth gefn ar gyfer cyfres haf 2022. Gellir gweld y cyhoeddiad hwn ar-lein ac mae'n berthnasol i'n cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau a gymeradwywyd gan Cymwysterau Cymru.

Gellir gweld gwybodaeth yn ymwneud â haf 2022, gan gynnwys addasiadau i'n cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, ar dudalen benodol ar ein gwefan.

Bydd ein timau ni'n cydweithio â Cymwysterau Cymru i ddefnyddio’r dull a gytunwyd ar gyfer graddio ac yn rhoi unrhyw gynlluniau wrth gefn ar waith os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn newid a hynny'n effeithio ar asesiadau allanol.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.