Gwneuthurwyr ffilmiau talentog ar y rhestr fer ar gyfer 10fed achlysur y Gwobrau Delwedd Symudol
Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer rownd derfynol 10fed seremoni flynyddol y Gwobrau Delwedd Symudol.
Mae’r Gwobrau, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â’r British Film Institute, yn dathlu’r gwaith gorau gan fyfyrwyr Astudiaethau Ffilm ac Astudio'r Cyfryngau 14-19 oed mewn ysgolion a cholegau o bob rhan o’r DU. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi rhoi mwy na 40 o wobrau i wneuthurwyr ffilmiau ifanc addawol sydd wedi mentro i amrywiaeth o yrfaoedd, llawer ohonyn nhw yn y sector creadigol. Ar ben hynny, mae'r gystadleuaeth wedi cael cefnogaeth gan bobl flaenllaw yn y diwydiant ffilmiau, gan gynnwys yr adolygydd ffilmiau Anna Smith a'r sgriptwraig Kate Leys.
Dyma oedd gan Jenny Stewart, ein Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm, i'w ddweud am y rhestr fer: "Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol bellach yn 10 mlwydd oed, ac rydym yn parhau i ryfeddu at lefel y creadigrwydd sydd i'w weld ym mhob cyflwyniad. Roedd y beirniaid wrth eu bodd ag ansawdd y gwaith, ac roedd penderfynu ar restr fer yn dasg anodd iawn iddyn nhw. Rydym yn hynod ddiolchgar i athrawon a myfyrwyr am eu cefnogaeth barhaus. Edrychwn ymlaen at ddathlu eu gwaith yn y seremoni i ddod."
Mae'r rhestr fer lawn i'w gweld ar y wefan.
Dathlu talent amrywiol
Bob blwyddyn, mae ein panel o feirniaid uchel eu parch yn dewis rhestr fer ac yna'n dewis enillydd ar gyfer pob categori. Mae cyfanswm o bedwar categori: Y Ffilm Fer Orau, y Fideo Cerddoriaeth Gorau, y Darn Ffilm/Teledu Gorau a'r Sgript Ffilm Orau.
Unwaith eto, roedd y beirniaid wedi eu synnu gan ansawdd y ceisiadau, sy'n arddangos amrywiaeth o dalent ym mhob agwedd ar wneud ffilmiau. Mae gwaith ymgeiswyr blaenorol ar y rhestr fer ac enillwyr blaenorol ar gael i'w weld ar ein sianel YouTube.
Gwobr Rheithgor Myfyrwyr Prifysgol Cymru
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno ein Gwobr Rheithgor Myfyrwyr am y tro cyntaf mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru. Bydd rheithgor o fyfyrwyr Astudiaethau Ffilm israddedig yn rhoi gwobr i enillydd a gaiff ei ddewis o'r holl ymgeiswyr ar y rhestr fer ar draws y pedwar categori.
Seremoni Wobrwyo
Bydd enillwyr y pedwar categori a'r Wobr Rheithgor Myfyrwyr yn cael eu cyhoeddi yn ein seremoni wobrwyo fawreddog, a fydd yn cael ei chynnal yn y British Film Institute yn Llundain ym mis Chwefror. Bydd rhai o westeion arbennig iawn o'r diwydiant yn bresennol i ddiddanu’r gynulleidfa. Byddwn yn cyhoeddi'r enwau hyn yn fuan.
I gael gwybodaeth bellach, ewch i wefan y Gwobrau Delwedd Symudol.