
Gwneud-i-Gymru: Paratoi i lwyddo
Gobeithio bod tymor y gwanwyn wedi bod yn un llwyddiannus a'ch bod chi'n edrych ymlaen at wyliau'r Pasg sydd ar y gorwel. Wrth i fis Medi agosáu, mae canolfannau ledled Cymru yn brysur yn paratoi i ddechrau cyflwyno ein cyfres gyntaf o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru ac rwyf am eich sicrhau yn bersonol ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi canolfannau drwy gydol y cyfnod paratoi pwysig hwn.
Gyda'r amlinelliadau ar gyfer ail don ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru bellach wedi'u cyhoeddi, mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn parhau i weithio'n gyflym i gyflwyno manylebau drafft i Cymwysterau Cymru. Gan adeiladu ar y momentwm hwn, mae gwaith paratoi eisoes wedi dechrau ar y drydedd don. Drwy gydol y broses hon, byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi ac yn gofyn am eich adborth gwerthfawr, gan gynnal ein hymrwymiad i gyd-awduro sy'n sicrhau bod y cymwysterau hyn yn wirioneddol adlewyrchu anghenion a dyheadau dysgwyr ac addysgwyr Cymru.
Yn sail i'n gwaith datblygu mae ein hymroddiad i amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein partneriaeth barhaus gyda Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) yn sicrhau bod pob cymhwyster a ddatblygwn yn meithrin cynhwysiant ac yn ysbrydoli dysgwyr drwy ddeunyddiau sydd wir yn taro tant gyda nhw ac yn dathlu amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.
Cefnogaeth gynhwysfawr ar flaenau'ch bysedd
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl ddogfennaeth addysgu ar gyfer ein ton gyntaf o gymwysterau TGAU, gan gynnwys Deunyddiau Asesu Enghreifftiol a Chanllawiau Addysgu, bellach ar gael ar ein gwefan. Mae'r dogfennau cynhwysfawr hyn wedi'u cynllunio'n ofalus i sicrhau y gallwch baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymwysterau hyn gyda hyder ac eglurder.
Er mwyn cefnogi eich taith addysgu ymhellach, rydym wedi lansio ein gwefan Adnoddau Gwneud-i-Gymru benodol sydd â phopeth yn ymwneud â deunyddiau cefnogi mewn un lle. Mae'r platfform yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, a bydd deunyddiau newydd, gan gynnwys tiwtorialau fideo yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, i wella profiad y defnyddiwr.
Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd ein sesiynau Dysgu Proffesiynol ledled Cymru. Roedd ein timau yn hynod falch o'r cyfranogiad gweithredol a ddangoswyd drwy gydol y sesiynau hyn, a oedd yn dangos brwdfrydedd gwirioneddol mewn cydweithredu i sicrhau cyflwyno'r cymwysterau newydd hyn yn llwyddiannus.
Ehangu llwybrau dysgu
Ym mis Chwefror, fe wnaethom lansio arolwg yn ceisio adborth ar ein cyfres Ton 3 o gymwysterau TAAU, Sylfaen, a Sgiliau Gwaith/Bywyd sydd ar ddod. Diolch i bawb a gymerodd ran - mae eich syniadau yn ein helpu i lunio'r cynigion newydd hyn ar gyfer 2027, gan sicrhau eu bod yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru a'i Bedwar Diben yn llawn.
Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cynnig llwybrau newydd a chyffrous i ddysgwyr 14-16 oed y tu hwnt i'r cymwysterau TGAU traddodiadol, gan roi pwyslais ar sgiliau ymarferol, gwybodaeth alwedigaethol, a pharatoi ar gyfer addysg bellach neu gyflogaeth - wrth gynnal cysondeb â gwerthoedd y cwricwlwm ac anghenion dysgwyr Cymru.
Ymgysylltu â chi: Adeiladu Partneriaethau Addysgol Cryf
Rydym wedi bod yn cysylltu â rhanddeiliaid mewn digwyddiadau allweddol ledled Cymru gan gynnwys Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, lle gwelwyd diddordeb sylweddol yn ein cynnig o Gymwysterau Galwedigaethol. Rydym hefyd yn paratoi i gyflwyno mewn Sesiwn Friffio yn y Senedd sydd ar ddod ym mis Mai, lle byddwn yn rhannu ein cynnydd ar y cymwysterau Gwneud-i-Gymru gyda llunwyr polisïau ac arweinwyr addysg i sicrhau eu bod yn parhau i gyfateb â blaenoriaethau addysgol Cymru.
Mae fy ymweliadau ledled Cymru yn ystod chwarter cyntaf 2025 wedi bod yn werth chweil. Mae cysylltu â phenaethiaid, athrawon a dysgwyr yn Ysgol Stanwell, Ysgol Gyfun Caerllion, Ysgol Maesydderwen ac yn y Rhwydwaith Penaethiaid Uwchradd yn Abertawe wedi darparu adborth gwerthfawr sy'n llywio ein dull a'n cefnogaeth. Os hoffech chi drefnu ymweliad, yna gallwch gysylltu â mi drwy anfon neges at lorna.turner@cbac.co.uk.
Dathlu rhagoriaeth
Rydym wedi cael cyfleoedd gwych i ddathlu cyflawniadau rhagorol dysgwyr ledled y wlad yn ystod y misoedd diwethaf, gan arddangos y dalent y mae ein cymwysterau yn helpu i'w meithrin.
Roedd yr 11eg Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol, a gynhaliwyd ym mis Chwefror yn y British Film Institute (BFI) eiconig yn South Bank yn Llundain, yn dathlu talent gwneud ffilmiau eithriadol myfyrwyr o bob cwr o'r DU. Enillodd Thomas Langridge o Twyford Church of England High School y Wobr Rheithgor Myfyrwyr a'r wobr Animeiddio am "The Landlord's Inspection," tra enillodd Kateryna Iwasko o Ashbourne College y wobr Ffilm Fer Orau am "Ikebana." Gyda beirniaid uchel eu parch o'r diwydiant gan gynnwys Anna Smith ac Amrou Al-Kadhi, mae'r digwyddiad cydweithredol hwn gyda'r BFI yn parhau i arddangos y creadigrwydd rhyfeddol sy'n cael ei feithrin drwy ein cymwysterau Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau.
Roeddem hefyd yn falch iawn o gyhoeddi'r drydedd rownd o enillwyr Bwrsari Gareth Pierce, a ddyfarnwyd i dri myfyriwr addawol o Gymru: Iwan Rhys Bryer a Siôn ap Llwyd Dafydd o Brifysgol Caerdydd, a Jacob Matthew Redmond o Brifysgol Aberystwyth. Bydd pob myfyriwr yn derbyn £3,000 i gefnogi eu hastudiaethau mewn Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan barhau â gwaddol ein cyn-Brif Weithredwr gyda'i angerdd am Fathemateg ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, ymroddiad, a phroffesiynoldeb parhaus. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol mwy disglair i ddysgwyr yng Nghymru.
Gobeithio y cewch chi i gyd gyfle i ymlacio dros wyliau'r Pasg a dymunaf y gorau i chi am Gyfres Haf lwyddiannus.
Ian