
Gwefan Adnoddau Digidol Gwneud-i-Gymru Newydd bellach yn fyw
Yn dilyn cyfnod o ddatblygiadau dwys, mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi lansio ein gwefan Adnoddau Digidol newydd i gefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd.
Datblygwyd y wefan ddwyieithog newydd hon gan ein Tîm Adnoddau Digidol, yn seiliedig ar adborth a gasglwyd gan athrawon a dysgwyr ledled Cymru.
Mae'r platfform sythweledol yn cynnwys sawl nodwedd newydd i wella profiad y defnyddiwr. Gan roi sylwadau ar y datblygiad cyffrous hwn, dywedodd Melanie Blount, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol: | |
![]() |
"Yn CBAC, mae gennym draddodiad sefydledig o gynhyrchu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i gefnogi ein cymwysterau. Gyda lansiad ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn parhau â'r ymagwedd hon, sy'n cael ei ategu gan ein gwefan newydd. 'Mae'r platfform newydd cyffrous hwn yn cynnwys llywio a nodweddion chwilio gwell, gan ganiatáu i ymwelwyr gael mynediad rhwydd at adnoddau perthnasol. Ar ben hynny, rydym wedi cyflwyno dangosfwrdd personol, sy'n galluogi athrawon a darlithwyr i deilwra ein hadnoddau, yn unol ag anghenion eu hystafell ddosbarth. Gellir rhannu'r rhain yn hawdd, a fydd yn gwella addysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu gartref." |
Gellir cyrchu'r wefan newydd yma.
Gwefan wedi'i chynllunio gyda defnyddwyr mewn golwg
Mae'r wefan newydd wedi'i chynllunio i wella profiad y defnyddiwr; mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
-
Nodweddion chwilio gwell, lle gellir chwilio am adnoddau yn ôl lefel, pwnc a manyleb, gan arbed amser.
-
Bydd gan athrawon a darlithwyr bellach fynediad at dudalen adnoddau ar-lein bersonol lle gallant gael gafael ar adnoddau y maent wedi'u hoffi, eu golygu neu eu cadw. Mae'r dangosfwrdd hwn sy'n hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gellir defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, gan deilwra'r addysgu i bob dysgwr a chreu amgylchedd dynamig a difyr ar gyfer dysgu wedi'i bersonoli. Ar ben hynny, gellir cyrchu hyn gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb presennol.
-
Bydd gan bob adnodd wedi'i deilwra URL unigryw yn hwyluso'r broses o rannu a dysgu o gartref. Drwy gynnig y swyddogaethau unigryw a newydd hyn, bydd ein hadnoddau Gwneud-i-Gymru yn cynnig y cyfle i athrawon a darlithwyr greu profiadau dysgu personol, difyr a chynhwysol, gan sicrhau bod y lefel briodol o gymorth yn cael ei chynnig.
Pecyn Cefnogi Cynhwysfawr
Mae'r wefan newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £1.5 miliwn a wnaed gan CBAC, sydd wedi ymrwymo i gynhyrchu 280 pecyn o adnoddau digidol i gefnogi'r cymwysterau newydd. Bydd pob pecyn yn cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a Threfnwyr Gwybodaeth. Dechreuwyd cyhoeddi'r adnoddau arloesol hyn ym mis Hydref, a bydd y gyfres lawn ar gael erbyn mis Awst 2025.
Bydd pob adnodd yn cael ei ddylunio i gefnogi ethos y Cwricwlwm i Gymru, drwy alluogi defnyddwyr i olygu'r adnoddau a theilwra yn ôl eu hardal leol. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon greu pecyn pwrpasol o adnoddau a fydd yn cefnogi amrediad eang o ddulliau addysgu. Mae rhagor o wybodaeth am yr adnoddau, gan gynnwys yr amserlen gyhoeddi ar gael yma.
Er mwyn cefnogi athrawon a darlithwyr ymhellach, bydd ein tîm yn cyhoeddi cyfres o diwtorialau fideo, er mwyn sicrhau y gall pob defnyddiwr wireddu potensial pob adnodd yn llawn. Yn ogystal, bydd sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cyflwyno, i ddarparu cyfleoedd i ofyn cwestiynau i'n Tîm Adnoddau Digidol. Cyhoeddir gwybodaeth bellach am y rhain yn fuan.
Gweithio mewn partneriaeth ag Adnodd
I ategu'r pecyn cynhwysfawr hwn ymhellach, mae CBAC yn gweithio ochr yn ochr ag Adnodd i gynhyrchu deunyddiau cefnogi ychwanegol. Mae Adnodd wedi ymrwymo i roi £500,000 i gynhyrchu deunyddiau ychwanegol, er mwyn gwella'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau cyffrous hyn ymhellach.
Wrth sôn am y bartneriaeth hon, dywedodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd: | |
![]() |
"Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio gyda CBAC i gomisiynu'r pecyn sylweddol hwn o ddeunyddiau addysgu a dysgu dwyieithog. Bydd yr adnoddau hyn yn hawdd dod o hyd iddynt, yn helpu i leihau llwyth gwaith ac yn helpu dysgwyr i wneud y gorau o'r cymwysterau TGAU newydd sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. 'Bydd buddsoddiad Adnodd yn sicrhau y bydd adnoddau ar gael ar gyfer pob pwnc cyn mis Medi 2025, pan fydd dysgwyr i fod i ddechrau astudio ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd hyn." |
Bydd yr adnoddau newydd hyn ar gael drwy'r wefan newydd, gan gynnig popeth yn ymwneud ag adnoddau mewn un lle i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.