Grŵp Cynghori ar Ddatblygu – wedi'i lansio
Rydym yn falch o gyhoeddi, fel rhan o broses barhaus CBAC i ymrwymo i ymgysylltu â'n rhanddeiliaid, rydym wedi lansio ein Grŵp Cynghori ar Ddatblygu a'n Grŵp Cynghori Dysgwyr, sydd â'r nod o gefnogi datblygiad ein cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd.
Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddatblygu yn gyfle ar gyfer deialog barhaus â'n canolfannau a'n rhanddeiliaid i sicrhau bod ein cymhwyster newydd yn addas i'r pwrpas ac yn ymateb i anghenion presennol dysgwyr ac ymarferwyr a'u hanghenion yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu ein hysbysu a'n cynorthwyo o ran datblygu a chynnal ymyriadau strategol i gymwysterau sy'n bodloni anghenion y sector yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.
Aelodau'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu
Un elfen hanfodol wrth ddatblygu'r Grŵp Cynghori hwn oedd sicrhau cynrychiolaeth eang o randdeiliaid o bob rhan o'r sector addysg oedd yn meddu ar amrywiaeth gyflenwol o brofiad a gwybodaeth.
Dyma oedd gan Rachel Dodge, Swyddog Datblygu Cymwysterau, i'w ddweud am y broses recriwtio:
“Ein nod oedd sicrhau nad proses fyddai'n digwydd ar wahân fyddai datblygu'r cymhwyster newydd, ac rydym wrthi'n mynd ati i ofyn am safbwyntiau ac arbenigedd amrywiaeth o randdeiliaid. Galwyd ar ymarferwyr a rheolwyr o adrannau chweched dosbarth ysgolion, colegau addysg bellach, cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch, a chyrff allanol oedd â diddordeb yn y cymhwyster er mwyn sicrhau y gellid gofyn am amrywiaeth o safbwyntiau gwrthrychol, drwy gydol y broses ddatblygu.’
Sicrhawyd hefyd nad oedd ein rhanddeiliaid cynrychiadol wedi'u cyfyngu i Gymru yn unig oherwydd, yn ein barn ni, mae'n hollbwysig codi ymwybyddiaeth o'r cymhwyster unigryw hwn a chynnal cyfathrebu â phrifysgolion a chyflogwyr yn Lloegr.”
Dechreuodd y broses recriwtio ar gyfer y Grŵp Cynghori yn yr hydref, a chawsom dros 30 o geisiadau o amrywiaeth eang o randdeiliaid a oedd yn awyddus i gyfrannu. Cafodd pob cais ei adolygu'n ofalus drwy broses agored a thryloyw, a dewiswyd y 10 penodai llwyddiannus yn seiliedig ar feini prawf penodol (gan gynnwys cynrychiolaeth, lleoliad daearyddol, ac amrywiaeth o rolau).
Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r aelodau sydd wedi'u cadarnhau o'r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu isod:
Enw |
Rôl |
Corff |
Dr Anne Chappel |
Pennaeth yr Adran Addysg |
Prifysgol Brunel, Llundain |
Bradley Tanner |
Rheolwr Addysg |
Iungo Solutions, Cymru Gyfan |
Catherine Jones |
Cydlynydd Bagloriaeth Uwch |
Ysgol Glan Clwyd, Conwy |
Catrin Penry Williams |
Arweinydd y Dystysgrif Her Sgiliau |
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd |
Diane Evans |
Arweinydd ôl-16 a chymwysterau Bagloriaeth Cymru |
Partneriaeth, Gorllewin Cymru |
Dr Joshua Andrews |
Darlithydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd |
Prifysgol Bangor |
Gareth Rhodri Jones |
Cyfarwyddwr Addysg Gyffredinol |
Coleg Cambria, Iâl |
Heather Francis |
Uwch Swyddog Recriwtio Myfyrwyr |
Prifysgol De Cymru, Caerdydd |
Rebecca Davies |
Prif Weithredwr |
Cynllun Addysg Peirianneg Cymru |
Sarah Kerrigan |
Pennaeth sgiliau |
Coleg Merthyr |
Sean McDermott |
Cydlynydd Bagloriaeth Uwch |
Welshpool High School |
Dywedodd Dr Anne Chappel, Pennaeth yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Brunel:
“Roeddwn i’n awyddus i fod yn rhan o’r grŵp cynghori ar gyfer y cymhwyster hwn oherwydd ei fod yn rhoi pwyslais cyffrous ar ymdrechion addysgol sydd â’r potensial o fod yn drawsffurfiol ar yr adeg y mae’r bobl ifanc yn ymwneud ag ef, yn ogystal â chyfrannu at eu dyfodol. Mae’r panel cynghori yn dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd o rannau gwahanol o’r gymuned addysg sy’n gallu cyfrannu at y trafodaethau datblygiadol.”
Tasgau nesaf
Bydd y Grŵp Cynghori ar Ddatblygu yn sicrhau bod y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn hylaw, yn ddilys ac yn addas i’r pwrpas. Bydd y rhanddeiliaid, sy'n ddefnyddwyr hefyd, yn gallu rhoi safbwynt gwrthrychol drwy gydol y broses, gan ganiatáu i nihefyd ddefnyddio ein gwybodaeth am asesu i esbonio'r sail resymegol dros ein penderfyniadau, yn ogystal â sicrhau bod y cymhwyster yn cyfateb i ofynion y rheoleiddwyr.
Dyma flaenoriaethau cychwynnol y Grŵp Cynghori ar Ddatblygu:
- Rhoi adborth ac awgrymiadau ar y strwythur a'r cynnwys arfaethedig
- Defnyddio'r grŵp fel fforwm ar gyfer yr adborth a gafwyd
- Archwilio'r cynnwys sydd wedi'i lunio ar gamau allweddol –gofyn a yw'r cynnwys yn ddiddorol ac yn ymarferol?
- Ar bob cam, rhoi adborth ac awgrymiadau ar ystrwythur a'r cynnwys arfaethedig cyn cyflwyno'r deunydd i Cymwysterau Cymru.
Dyma oedd gan Rachel Dodge, Swyddog Datblygu Cymwysterau, i'w ddweud am ein cyhoeddiad:
“Rwyf i wrth fy modd â brwdfrydedd ac angerdd aelodau'r Grŵp Cynghori.Mae consensws gwirioneddol o falchder a phenderfyniad i lunio cymhwyster lle mae gofynion athrawon a myfyrwyr yn hollbwysig.”
Mwy am y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Addysgir y cymhwyster newydd hwn yn y canolfannau o fis Medi 2023. Bydd y dyfarniad cyntaf yn digwydd yn haf 2025. Y cymhwyster hwn fydd yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol yn dilyn ymgynghoriad 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru yn nhymor yr hydref 2020. Bydd ein grwpiau cynghori yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o'i ddatblygu, gan sicrhau ein bod yn datblygu cymhwyster arloesol, sy’n arwain y sector, a fydd yn rhoiamrywiaeth o sgiliau i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am ddatblygiad Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, tanysgrifiwch i'n bwletin e-bost.