
Ein hymrwymiad i'r cynnig 'Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol'
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu meini prawf wedi’u cymeradwyo terfynol ar gyfer Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol. Mae'r meini prawf yn cwmpasu'r cymwysterau TAAU, Sylfaen, Project a Sgiliau. Bydd y rhain yn ffurfio'r drydedd don, sef y don derfynol, o'r cymwysterau newydd i’w cyflwyno i ysgolion a cholegau ledled Cymru o fis Medi 2027.
Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi cynnig cynhwysol, eang a chytbwys i ddysgwyr yng Nghymru, a fydd yn eu galluogi i ddysgu a datblygu sgiliau mewn gwahanol ffyrdd.
Gweledigaeth CBAC
Ers cyhoeddi'r meini prawf wedi'u cymeradwyo, mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau wedi bod yn gweithio'n gyflym i ystyried sut y byddwn yn defnyddio ein 75 mlynedd mewn datblygu cymwysterau, i greu cymwysterau newydd ac ychwanegu at ein pecyn presennol.
Yn tynnu sylw at y datblygiad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:
![]() |
"Fel y prif gorff dyfarnu yng Nghymru, ein gweledigaeth yw cynnig portffolio o gymwysterau dwyieithog o ansawdd uchel a fydd yn rhoi dewis i ddysgwyr ledled Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cyfres newydd o TAAU, Cymwysterau Galwedigaethol Sylfaen, Cymwysterau Cyffredinol Sylfaen, ochr yn ochr â chymwysterau Project a chyfres Sgiliau. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn ein cymunedau addysg i ddatblygu ein cyfres o gymwysterau yn unol â'r cynnig 14-16 Cenedlaethol. Byddwn yn defnyddio ein profiad a'n gwybodaeth eang wrth ddatblygu a chyflwyno cymwysterau o ansawdd uchel sy'n cael eu parchu, sydd hefyd yn berthnasol i ddysgwyr ac yn hawdd eu cyflwyno. Byddwn yn datblygu ein cymwysterau i ddiwallu anghenion a diddordebau pob dysgwr, a chyfateb i'r 'Cwricwlwm i Gymru'. |
Yn yr un modd â datblygu ein TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig, byddwn yn parhau â'n dull cyd-awduro. Mae'r dull yn caniatáu i amrywiaeth eang o randdeiliaid chwarae rhan ganolog yn y broses ddatblygu. Bydd eu mewnwelediad yn sicrhau bod ein cymwysterau'n cynnig cyfleoedd dysgu ystyrlon i ddysgwyr, a fydd yn eu galluogi nhw i ddatblygu'r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen. Drwy gydol datblygiad ein TGAU newydd, rydym wedi datblygu dealltwriaeth ddofn o'r Cwricwlwm i Gymru, a oedd yn ganolog i'r broses ddatblygu; a bydd y dull hwn yn parhau. Rydym eisoes wedi datblygu egwyddorion a chanllawiau ar gyfer datblygu cymwysterau ar agweddau allweddol megisthemâu trawsbynciol, profiadau dysgu a sgiliau cyfannol i adlewyrchu uchelgeisiau'r cwricwlwm. Bydd hyn yn ffurfio sylfaen ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Mae ein hymrwymiad i ddysgu seiliedig ar sgiliau eisoes wedi'i brofi trwy ein rôl fel unig ddarparwr y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen a Bagloriaeth Cymru ers ei sefydlu. Wedi cefnogi dros 370,000 o ddysgwyr, rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut mae'r cymwysterau hyn yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy hanfodol - o effeithiolrwydd personol a chynllunio i feddwl yn feirniadol a datrys problemau, sy'n rhannau annatod o'r 'Cwricwlwm i Gymru'. dynnu’r cymwysterau hyn yn ôl, byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i sicrhau bod ein cymwysterau Project a Sgiliau newydd yn parhau i roi cyfleoedd i ddysgwyr i ddatblygu ac arddangos y setiau sgiliau hyn sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang. Ochr yn ochr â'r cymwysterau, byddwn yn cydweithio â'n rhanddeiliaid i ddatblygu pecyn cefnogi ategol, a fydd yn helpu i gyflwyno'r cymwysterau hyn, gan gefnogi athrawon a chanolfannau i drosglwyddo o'r cymwysterau presennol i'r rhai newydd. Bydd hyn yn cael ei deilwra yn unol ag anghenion ein canolfannau, ac wrth gwrs, bydd yn gwbl ddwyieithog i gefnogi pob dysgwr. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru, a bydd y cymwysterau hyn yn cynnig cyfleoedd dysgu newydd a diddorol i ddysgwr ledled Cymru. Bydd CBAC yn rhan flaenllaw o'r datblygiad hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i gefnogi'r weledigaeth hon." |
Helpu i gefnogi ein gwaith datblygu cymwysterau
Rydym yn cynnal arolwg i gasglu eich barn ar y cymwysterau rydych chi'n eu cynnig ar hyn o bryd - dyma eich cyfle i ddweud wrthym beth hoffech i aros yr un fath a beth hoffech i newid cyn i ni ddechrau datblygu ein cymwysterau o ddifrif.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn hefyd yn gwahodd rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i ymuno â'n timau datblygu cymwysterau - byddwn yn chwilio am awduron, adolygwyr ac aelodau ar gyfer ein Grwpiau Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Y newyddion diweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwnaed i Gymru. Yn barod i'r byd.' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd hyn.