Dyfodol asesu digidol ar gyfer llwyddiant dysgwyr
Mae Ben Newby, ein Prif Swyddog Digidol, yn archwilio datblygiad asesu digidol, yn arbennig mewn perthynas â phroject 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru, a sut y gallwn ddefnyddio offer digidol i wella profiad dysgwyr. |
“Mae'r byd o'n cwmpas yn newid yn gyflym ac mae fy nhîm yn ystyried yn ofalus sut rydym yn adlewyrchu'r newidiadau hynny yn y ffordd rydym yn manteisio ar dechnoleg yn y gofod asesu.
“Rydym wedi bod yn cynnig arholiadau ar-sgrin ers pymtheg mlynedd ac rydym yn falch iawn o'n treftadaeth a'n profiad. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu asesiadau sy'n fwy deniadol, yn darparu profiad cyfoethocach i ddysgwyr ac yn goresgyn heriau cymdeithasol a ffisegol. Mae asesiadau digidol yn chwarae rhan fawr iawn yn hyn.
“Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig dau fath o asesiadau digidol: E-asesiadau, sef arholiadau sy'n cael eu cwblhau a'u marcio'n electronig, ar sgrin, ac E-gyflwyniadau, lle mae gwaith cwrs dysgwr yn cael ei gyflwyno'n electronig a'i asesu drwy lwyfan diogel seiliedig ar y we. Yr haf hwn, safodd dros 12,000 o ymgeiswyr e-asesiadau ar draws cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol. Mewn un pwnc yn unig, Technoleg Ddigidol, roedd dros 5,000 o ymgeiswyr ar un tro. Rydym hefyd yn asesu dros 200,000 o ddarnau o waith cwrs digidol bob blwyddyn.
“Gan weithio mewn consortiwm o ddarparwyr technoleg, ymgynghorwyr ac arbenigwyr mewn dylunio asesiadau, rydym yn falch o gynnig e-asesiadau personol hefyd. Mae'r rhain yn ffordd o wybod lle mae dysgwyr arni o ran eu darllen ac ysgrifennu wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy'r ysgol uwchradd, ac mae'n faes y mae Cymru wir yn arwain y ffordd ynddo.
“Fel unrhyw fath o arholiad, mae hygyrchedd i ddysgwyr wedi bod yn ystyriaeth allweddol, a bydd hynny hefyd yn parhau i fod yn wir. Mae ein e-asesiadau'n cynnwys nifer o addasiadau, gan gynnwys amrywiaeth o baletau lliw, meintiau ffontiau ac opsiynau sain.
“Wrth edrych tua'r dyfodol, mae project 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru yn gyfle enfawr i ni ganiatáu i hyd yn oed mwy o ddysgwyr a chanolfannau brofi holl fanteision e-asesiadau, gan ddatblygu ar gyflymder y gall y system ei gefnogi.
“Mae dysgwyr eisoes yn gyfarwydd ag amgylchedd lle mae addysgu yn digwydd ar sawl fformat digidol, ac mae gwaith cartref yn cael ei wneud yn electronig, felly mae'n gwneud synnwyr llwyr ein bod, fel bwrdd arholi, yn adlewyrchu'r byd addysg hwn sy'n newid o hyd.
“O ran graddfa, ar hyn o bryd mae opsiwn e-asesu ar gael ar gyfer 80% o'n cymwysterau galwedigaethol a 15% o'n cymwysterau TGAU. Ar gyfer TGAU, o'r 15% hynny, mae tua 3% yn cael eu gwneud ar-lein ar hyn o bryd. Erbyn diwedd y gyfres newydd hon o gymwysterau cyffredinol, rydym yn disgwyl i'r rhif hwnnw godi i tua 25%
“Mae'r dechnoleg a'r gallu ar gael yn barod, felly mae'n ymwneud â pha mor gyflym y gallwn roi'r newid hwnnw ar waith, gan sicrhau uniondeb a chadernid ar bob cam. Yn y cefndir, rydym yn ailddatblygu ein systemau i fod yn fwy sythweledol a byddwn yn ehangu ein tîm i helpu i gefnogi ein canolfannau a'n dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn o dwf.
“Yn naturiol, byddwn yn ymgynghori â'n rhanddeiliaid ar bob cam o'r ffordd. Yn rhan o'n gwaith i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer Cymwys ar gyfer y Dyfodol, byddwn yn holi barn trawstoriad o randdeiliaid am asesu digidol – o ddysgwyr, athrawon, darlithwyr ac arweinwyr busnes i arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr amrywiaeth a chynhwysiant.
“Rydym yn ymwybodol bod gallu pob canolfan o ran technoleg ac adnoddau yn wahanol, ac rydym yn datblygu ein datrysiadau yn unol â hynny. Mae gennym dîm cefnogi dwyieithog pwrpasol sy'n canolbwyntio'n llwyr ar e-asesu. Mae'r tîm yno i helpu pob canolfan i gychwyn ar ei thaith e-asesu, neu ymestyn y daith honno, yn ogystal â chefnogi ag unrhyw ymholiadau ar hyd y ffordd.
“Mae athrawon, darlithwyr a dysgwyr yn cael mynediad at ein llwyfan ar-sgrin ymhell ymlaen llaw, fel y gallan nhw ymgyfarwyddo â'r feddalwedd. Rydym hefyd yn darparu canllawiau eang a phecynnau cymorth fideo i gynorthwyo ymhellach â'r broses o osod a darparu e-asesiadau.
“Yr adborth parhaus a gawn gan ganolfannau yw eu bod wedi'u synnu gan ba mor hawdd yw'r broses o weinyddu e-asesiadau, ac rydym yn falch iawn o hynny, ond byddwn yn parhau i fuddsoddi i wneud ein systemau'n haws eu defnyddio.
“Mae cynifer o fanteision i ddysgwyr, athrawon, darlithwyr a gweinyddwyr o ran asesu digidol, ac rwy'n edrych ymlaen at wireddu'r rheini wrth i ni barhau ar y daith hon.”
Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion, y cyfleoedd a'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch y TGAU newydd, eich i'n hardal we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Mae CBAC yn barod'. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.