Gwobrau Arloesedd

Dyfeiswyr ifanc addawol yn arddangos creadigaethau yn ein Harddangosfa Gwobrau Arloesedd blynyddol

Mae dyfeiswyr ifanc addawol o Gymru yn arddangos eu creadigaethau yn ein harddangosfeydd yng Nghaerdydd a Bangor ym mis Hydref.

Drwy weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, mae ein Gwobrau Arloesedd yn annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn arloesol yn dechnolegol ac i werthfawrogi pwysigrwydd Dylunio a Thechnoleg. Bydd y dyfeiswyr a'r creadigaethau mwyaf addawol yn mynd ymlaen i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Arloesedd mewn seremoni yn ddiweddarach eleni.

Cynhelir yr arddangosfeydd yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, ar 9 a 10 Hydref, ac yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, ar 16 Hydref, a byddant yn arddangos y gwaith mwyaf arloesol ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch mewn Dylunio a Thechnoleg. Bydd yr arddangosfeydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ac athrawon sy'n ymweld ag ysgolion ledled Cymru weld rhai o'r enghreifftiau gorau o waith myfyrwyr 16 i 18 oed.

Bydd rhaglen o seminarau hefyd ar gael trwy gydol y broses, yn archwilio testunau fel 'adnabod cyfleoedd ar gyfer dylunio arloesol' a 'phrofi a gwerthuso ar gyfer arloesi effeithiol’.

Yng Ngwobrau Arloesedd y llynedd, y cyntaf ers seibiant o ddwy flynedd oherwydd y pandemig, cafodd myfyrwyr ganmoliaeth am eu dyfalbarhad wrth oresgyn llawer o heriau i gynhyrchu gwaith o ansawdd mor uchel, mewn seremoni yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Dywedodd ein Prif Weithredwr Ian Morgan: “Anhygoel yw gweld dyfeisgarwch ac ansawdd yr hyn y mae ein myfyrwyr Dylunio a Thechnoleg yn ei greu. Mae'r arddangosfeydd yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos rhai o'r doniau anhygoel hyn, ac i fyfyrwyr sy'n ymweld o ysgolion a cholegau ledled Cymru gael eu hysbrydoli gan y creadigaethau sydd i'w gweld.

“Bydd y dyfeisiadau gorau yn mynd ymlaen i gael eu dathlu yn ein Gwobrau Arloesedd yn ddiweddarach eleni. Bydd hon yn sicr yn dasg anodd iawn i'r beirniaid.”

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd a'r Gwobrau Arloesedd ar gael yma.