Dweud eich dweud am ein cymhwyster Lefel 3 Troseddeg diwygiedig
Rydym wrthi'n diwygio ein cymhwyster Lefel 3 Troseddeg ar gyfer canolfannau yng Nghymru.
Mae'r cymhwyster yn ffurfio rhan o'n cyfres o gymwysterau cymhwysol, sydd wedi'u llunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg lawn amser. Ei nod yw meithrin gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol drwy ddysgu cymhwysol.
Diwygio Troseddeg
Bydd ein cymhwyster Troseddeg diwygiedig yn adeiladu ar ei gryfderau presennol ac yn rhoi cyfle i ni ddiweddaru a diwygio meysydd cynnwys, er enghraifft tynnu'r ffocws ar ymgyrchoedd yn Uned 1 a chynyddu'r ffocws ar fathau o droseddau a chynrychioliadau o drosedd.
Bydd y cymhwyster yn parhau i gynnig profiadau cyffrous a diddorol sy'n canolbwyntio ar ddysgu cymhwysol a datblygu sgiliau megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi a chyfathrebu drwy dasgau pwrpasol wedi'u gosod mewn cyd-destunau ystyrlon.
Rhoi eich adborth
Yn rhan o'n proses ddatblygu, rydym yn gofyn i ymarferwyr presennol roi adborth ar ein cynnig, sydd i'w gael yn ein dogfen Amlinelliad o'r Cymhwyster Lefel 3 Troseddeg. Bydd yr ymgynghoriad yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau, a dylid cyflwyno pob ymateb erbyn 26/02/2024.
Mae ein harolwg dienw i'w weld yma.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd y cyfle i roi eich adborth, sy'n rhan bwysig o'n proses ddatblygu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein dull, anfonwch neges e-bost at: datblygucymwysterau@cbac.co.uk