Diweddariad Penaethiaid Canolfannau: Gwall hanesyddol yn y gweithdrefnau Adolygu Marcio
Gweler isod y cyfathrebiad a rannwyd yn ddiweddar gan ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cymwysterau ac Asesu â Phenaethiaid Canolfannau ynghylch gwall hanesyddol yn ein gweithdrefnau Adolygu Marcio:
Annwyl Bennaeth y Ganolfan,
Mae'n flin gennym roi gwybod i chi ein bod wedi nodi gwall hanesyddol yn ein gweithdrefnau Adolygu Marcio ar gyfer sawl un o'n cymwysterau TGAU, Safon Uwch a galwedigaethol.
Wrth i ni uwchraddio ein systemau yn ddiweddar, canfuwyd bod adolygiadau y gofynnwyd amdanynt rhwng Mehefin 2019 a Mehefin 2023 wedi'u dyrannu'n anghywir mewn rhai achosion i adolygwyr a fu'n rhan o broses farcio'r sgript wreiddiol. Yn ystod y gwaith ymchwilio, canfuwyd yr effeithiwyd ar nifer bach o adolygiadau yn 2017 a 2018 yn yr un modd.
Nodwyd yr effeithiwyd ar gyfanswm o XX adolygiad yn eich canolfan. Mae'n ddrwg iawn gennym am y gwall hwn.
Adolygwyd pob sgript yr effeithiwyd arni o gyfres Haf 2023 yn llawn gan adolygwyr annibynnol. Bach iawn oedd nifer y myfyrwyr yr effeithiodd y gwall hwn ar eu gradd. Cysylltwyd eisoes â'r canolfannau hynny lle yr effeithiodd y gwall hwn ar radd dysgwyr a byddwn yn cywiro'r radd honno.
Nid yw sgriptiau o gyfresi cyn Haf 2023 ar gael i ni ac ni allwn felly ail-adolygu unrhyw ddeunydd o'r cyfnod hwn. Gan ystyried hyn, ac er mwyn lliniaru unrhyw effaith o'r digwyddiad hwn, gallwn gadarnhau y byddwn yn cyhoeddi nodiadau credyd i'ch canolfan ar gyfer pob adolygiad marcio a effeithiwyd gan y gwall hwn, ac am unrhyw wasanaethau ar ôl y canlyniadau cysylltiedig. Bydd y nodiadau credyd hyn yn cael eu rhyddhau i chi erbyn 20 Rhagfyr 2024 fan bellaf. Cyfanswm gwerth y nodiadau credyd a dderbynnir gan eich canolfan yw XX.
Gallwn eich sicrhau ein bod wedi cynnal adolygiad trylwyr o'n prosesau er mwyn sicrhau nad oes rhywbeth fel hyn yn digwydd eto yn y dyfodol. Cafodd dulliau diogelu ychwanegol eu rhoi ar waith hefyd cyn cyfresi arholiadau Tachwedd 2023, Ionawr 2024 a Mehefin 2024, sydd wedi bod yn effeithiol.
Mae ein timau yn parhau i fod wrth law i'ch cefnogi chi. Os hoffech gael unrhyw wybodaeth neu arweiniad pellach ar y mater hwn, yna cofiwch gysylltu â ni ar PRS@wjec.co.uk neu drwy ffonio 029 2240 4306.
Yn gywir
Richard Harry
Cyfarwyddwr Gweithredol Cymwysterau ac Asesu