
Diweddariad o ran cymhwyster TGAU Hanes Gwneud-i-Gymru
Ddoe, cyhoeddwyd gan CBAC, Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd yr addysgu cyntaf ar gyfer y cymhwyster TGAU Hanes Gwneud-i-Gymru yn symud o fis Medi 2025 i fis Medi 2026. Mae ein datganiad llawn a gwybodaeth bellach am y penderfyniad a wnaed i'w gweld yma.
Noder fod y penderfyniad hwn yn effeithio ar TGAU Hanes yn unig, ac nid oes unrhyw newidiadau pellach wedi'u cynllunio ar gyfer unrhyw gymwysterau eraill sy'n rhan o gymwysterau Ton 1 (i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025).
Cefnogi'r gwaith o gyflwyno TGAU Hanes
Bydd y penderfyniad i ohirio'r addysgu am y tro cyntaf yn rhoi amser ychwanegol i athrawon baratoi i gyflwyno ein cymhwyster TGAU Hanes newydd. Ysgrifennwyd ein cymhwyster newydd i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru ac mae wedi'i gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru gan ei fod yn bodloni'r meini prawf cymeradwyo, ac felly ni fydd unrhyw addasiadau/diweddariadau i'r fanyleb.
Hoffem atgoffa athrawon/darlithwyr fod y Fanyleb, Deunyddiau Asesu Enghreifftiol a'r Canllawiau Addysgu cymeradwy ar gael o dudalen y pwnc ar y wefan. Bydd y dogfennau hyn yn cynorthwyo eich gwaith paratoi.
Ynghyd â'n dogfennau cefnogi, byddwn yn parhau i gyflwyno ein digwyddiadau wyneb-yn-wyneb 'Paratoi i Addysgu' sydd i ddod. Mae gwybodaeth bellach ar gael isod.
Hoffem hefyd atgoffa athrawon/darlithwyr fod ein Tîm Adnoddau Digidol yn parhau i gyhoeddi cyfoeth o adnoddau RHAD AC AM DDIM i gefnogi eich gwaith paratoi. Mae rhagor o wybodaeth am yr adnoddau hyn i'w chael yma.
Yn ogystal, mae ein tîm pwnc Hanes ar gael i roi cyngor a chanllawiau pellach i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Digwyddiadau Paratoi i Addysgu wyneb yn wyneb ledled Cymru
Noder, bydd y digwyddiadau 'Paratoi i Addysgu' sydd i ddod yn fuan yn parhau yn ôl y disgwyl. Mae'r hyfforddiant i athrawon Hanes yn parhau ar yr amserlen ac nid ydyw wedi'i ohirio. Mae'r cyrsiau hyn yn dechrau ar 14 Chwefror, cysylltwch â Phennaeth eich Canolfan i gadarnhau dyddiadau a lleoliadau.
Nid oes unrhyw gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ychwanegol wedi'u trefnu, ac felly rydym yn eich annog yn gryf i fynychu'r sesiynau sydd wedi'u cynllunio.
Cymhwyster TGAU Hanes Cyfredol
O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, bydd ein cymhwyster TGAU Hanes (C00/1152/0) yn parhau i gael ei addysgu tan 2027. Bydd yr asesiad terfynol yn haf 2027 a bydd cyfleoedd i ailsefyll ar gael ym mis Ionawr 2028.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cymhwyster TGAU Hanes, cysylltwch â'n tîm pwnc Hanes yn hanes@cbac.co.uk.
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.