
Diploma Estynedig Newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'w addysgu o fis Medi 2023
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn datblygu cymhwyster Lefel 3 newydd sef y Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau a fydd ar gael i ganolfannau a dysgwyr yng Nghymru o fis Medi 2023. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Dystysgrif neu’r Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau yn flaenorol neu sydd i fod i gwblhau yn haf 2023.
Cymhwyster wedi'i anelu at ddysgwyr ôl-16 mewn addysg llawn amser yw hwn. Bydd yn cael ei ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr addysg bellach ac yn:
- adeiladu ar y cymwysterau Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol presennol
- cynnig rhaglen astudio dwy flynedd o hyd sy'n cyfateb o ran maint i 3 TAG Safon Uwch
- cefnogi dysgwyr i fynd ymlaen i addysg uwch drwy gael ei gydnabod a'i dderbyn gan brifysgolion ledled y DU
- cynnig dulliau asesu arloesol, ymarferol a chyfredol.
Bwriadwn gynnal cyfres o gyfarfodydd archwiliol yn nes ymlaen yn y mis. Cyfarfodydd wedi'u hanelu'n bennaf at ymarferwyr AB fydd y rhain a byddant yn cynnig y cyfle i lywio cynnwys a dulliau asesu. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi tanysgrifio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru i gael gwybod am y digwyddiadau hyn.
Hefyd, rydym yn chwilio am ymarferwyr profiadol i ysgrifennu ac adolygu cynnwys a deunyddiau asesu'r cymhwyster gyda ni. Ceir rhagor o wybodaeth yma.