Dechrau cyfrif i lawr at gymwysterau 'Gwneud-i-Gymru' newydd CBAC – blwyddyn i fynd

Yn ddiweddar, lansiwyd y don gyntaf o'n cyfres o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan gynnwys 18 o fanylebau TGAU newydd, lle bydd yr addysgu'n dechrau o fis Medi 2025. 

Mewn cyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau, buom yn gweithio gyda dros 170 o staff addysgu ar draws mwy na 100 o ysgolion yng Nghymru a mwy na 50 o sefydliadau, gan gynnwys Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL). 

Dathlu ein cymwysterau newydd

Mewn digwyddiad lansio yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, rhoddwyd cyflwyniadau gan Ian Morgan, ein Prif Weithredwr, Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, a Richard Harry, Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu, i drafod y broses o ddatblygu'r cymwysterau i ysbrydoli a galluogi dysgwyr i gyflawni eu dyheadau o ran gyrfa yn y farchnad fyd-eang. Cafwyd perfformiad arbennig hefyd gan ddysgwyr o Ysgol Uwchradd Caerdydd. 

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Mae cymeradwyo'r don gyntaf o fanylebau wir yn garreg filltir arwyddocaol wrth ddarparu cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae pob cymhwyster wedi'i lunio i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd modern ac yn cyd-fynd â phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. 

“Drwy gydol y broses ddatblygu, rydym wedi ymgysylltu a gwrando ar sawl rhanddeiliad gwahanol, gan gynnwys dros 170 o staff addysgu ar draws mwy na 100 o ysgolion yng Nghymru a mwy na 50 o sefydliadau annibynnol. Rwy'n ddiolchgar iddynt am eu parodrwydd i gyfrannu drwy gydol y broses ddatblygu. 

Rydym yn hyderus y bydd y cymwysterau hyn yn ysbrydoli ac yn ymgysylltu â dysgwyr, gan roi cyfleoedd newydd a chyfoes iddynt, ac yn eu harwain i fod yn ddysgwyr gwybodus a galluog yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol.”    

Dywedodd Rachel Clarke, cyn Ddirprwy Bennaeth ac Ymgynghorydd Addysg Apex DARPL: “Roeddem yn falch iawn o weithio gyda CBAC i ddatblygu'r cymwysterau hyn, a braf oedd gweld eu bod yn deall pwysigrwydd cynhwysiant ac amrywiaeth. Mae'r cymwysterau Gwneud-i-Gymru yn gyfle gwych i ddysgwyr ymgysylltu â deunyddiau sy'n cynnwys cynrychiolaeth gadarnhaol a fydd yn galluogi iddyn nhw uniaethu a chael eu hysbrydoli"  

Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael yma. 

Lawrlwythwch ein manylebau newydd  

Mae'r manylebau wedi'u cymeradwyo ar gael i'w lawrlwytho yma. Bydd pecyn asesu cynhwysfawr ar gyfer pob cymhwyster, gan gynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.  

Mae'r cymwysterau wedi'u llunio i gefnogi system addysgol fodern, gynhwysol ac amrywiol ac i baratoi unigolion ar gyfer y dyfodol tra'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru.  

Trwy integreiddio fframwaith cynefin, anogir athrawon i ystyried ymwybyddiaeth o'u hardal leol a ffactorau cyd-destunol ar gyfer pob ysgol er mwyn addasu eu haddysgu yn unol â hynny. 

Cefnogi ein hathrawon

Er mwyn cefnogi'r cyflwyniad o'r cymwysterau newydd hyn, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr 2025. Bydd hyn yn cefnogi athrawon i fewnblannu agweddau'r Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau, yn ogystal â darparu adnoddau digidol addasadwy dwyieithog sy'n rhad ac am ddim.  

Yn ogystal, byddwn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y cyrsiau cenedlaethol hyn, sy'n rhad ac am ddim, yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. 

Bydd ein hadnodd addasadwy yn cael ei ddylunio i gefnogi ethos y Cwricwlwm i Gymru, drwy alluogi defnyddwyr i ystyried ffactorau cyd-destunol er mwyn teilwra eu dulliau gweithredu yn ôl eu hardal leol. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon greu pecyn penodol o adnoddau a fydd yn cefnogi amrywiaeth eang o ddulliau addysgu. 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.