Dathlu ein llwyddiannau ar y cyd ac edrych ymlaen at gyfleoedd yn y dyfodol
Neges gan ein Prif Weithredwr:
2024 oedd blwyddyn lansio ein cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol newydd.
Mae eich cydweithrediad a'ch ymrwymiad wedi bod yn rhyfeddol - gyda'n gilydd, rydym yn creu cyfleoedd i ddysgwyr ledled Cymru lwyddo ym mha bynnag lwybr y maent yn ei ddewis.
Yn benodol roedd yn braf gweld y ffordd y mae ein dull cyd-awduro wedi llywio Ton gyntaf ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Wrth i ni ddechrau ar y gwaith datblygu ar gyfer Ton 2, mae'r dull hwn yn parhau i fod wrth wraidd sicrhau bod ein cymwysterau wir yn bodloni anghenion dysgwyr amrywiol ledled Cymru.
Yn dilyn ein llinell amser y cytunwyd arni gyda Cymwysterau Cymru, mae Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) ar gyfer cymwysterau Ton 1 bellach yn fyw. Ar gyfer y cymhwyster TGAU diwygiedig mewn Astudiaethau Crefyddol, bydd y gyfres gyflawn ar gael yn gynnar yn 2025. Mae’r DAE ar gyfer Unedau 2 a 4 ar gael nawr. Ym mis Ionawr, byddwn yn cyhoeddi ein Canllawiau Addysgu, gan gefnogi eich gwaith paratoi ar y cyd â'n manylebau cymeradwy.
Er mwyn gwella eich gwaith cynllunio ar gyfer 2025, rydym yn cynnal cyfres o Sesiynau Briffio Cymwysterau Ar-lein Byw gyda sesiynau holi ac ateb, ochr yn ochr â'n sioe deithiol genedlaethol ledled Cymru fel rhan o'n rhaglen Dysgu Proffesiynol. Byddant yn eich tywys drwy gynnwys y cymhwyster a'r strwythur asesu. Yn ogystal â hyn, byddwn yn cyhoeddi adnoddau digidol Gwneud-i-Gymru ychwanegol, ac mae ein harbenigwyr pwnc wrth law i'ch cefnogi gydag unrhyw ymholiadau.
Yn ddiweddar rydym hefyd wedi lansio tudalen we bwrpasol newydd i gefnogi ein Uwch Arweinwyr a Swyddogion Arholiadau, gan ddod â'r holl ddogfennau a'r wybodaeth ddiweddaraf am gymwysterau ynghyd mewn un man hygyrch. Bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda chefnogaeth ac arweiniad defnyddiol.
Rydych wedi bod yn barod iawn i ymgysylltu â’r ymgynghoriad Ton 2. Mae'n dangos, unwaith eto, eich ymrwymiad i lywio dyfodol cymwysterau yng Nghymru. Mae ein timau bellach yn adolygu'r holl adborth a dderbyniwyd yn ofalus, gan sicrhau bod eich mewnwelediadau yn llywio ein proses ddatblygu.
Wrth edrych tua'r dyfodol, rydym wrthi'n archwilio cyfleoedd datblygu newydd ar gyfer y cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 i ychwanegu at ein portffolio. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar greu llwybrau ychwanegol sy'n cyd-fynd ag anghenion dysgwyr a’r datblygiadau yn nisgwyliadau cyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt.
Daeth Tachwedd â chysylltiadau gwerthfawr at ei gilydd o bob rhan o Gymru, drwy ein presenoldeb yn nigwyddiad digidol Fforwm Polisïau Cymru a Chynhadledd Flynyddol ASCL Cymru, lle'r oeddem yn noddwyr balch. Roedd y fforymau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i arddangos ein taith datblygu cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac ymgysylltu'n uniongyrchol ag addysgwyr a rhanddeiliaid.
Mae'r ymgysylltiad hwn yn ymestyn i'n rhaglen ymweliadau canolfannau, lle cefais y pleser o ymweld ag Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam ac Ysgol Uwchradd Caerdydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae'r trafodaethau gwerthfawr hyn yn parhau i lywio ein dealltwriaeth o'ch anghenion ac atgyfnerthu pwysigrwydd ein dull cydweithredol. Os hoffech chi drefnu ymweliad i'ch canolfan, anfonwch neges at lorna.turner@cbac.co.uk.
Fel rhan o'n hymrwymiad i dryloywder a rhannu cynnydd, rwy'n falch o rannu bod ein Hadolygiad Blynyddol ar gyfer 2023-24 bellach ar gael, gan arddangos ein cynnydd wrth weithio ochr yn ochr â'r gymuned addysg i rymuso dysgwyr Cymru i gyrraedd eu potensial yn llawn.
Roedd ein 24ain Gwobrau Arloesedd, a gynhaliwyd yn y Senedd ddechrau mis Rhagfyr, yn dathlu creadigrwydd eithriadol mewn Dylunio a Thechnoleg. Mae safon y projectau yn parhau i'n hysbrydoli ni, gan ddangos yn union pam ein bod yn hyrwyddo meddwl arloesol trwy ein cymhwyster. Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr a ddangosodd sgìl a chreadigrwydd eithriadol, rydym yn hyderus y byddant yn llwyddo yn eu hymdrechion yn y dyfodol.
Wrth edrych yn ôl ar gyflawniadau eleni, ni oedd y corff dyfarnu cyntaf yn y DU i gynnig cymwysterau ym meysydd Lled-ddargludyddion a Chynaliadwyedd, sy'n un o sawl carreg filltir yr ydym wedi'i chyflawni. Mae'r rhaglenni newydd hyn yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion newydd y gweithlu ac yn arddangos ein hymrwymiad i greu llwybrau dysgu sy'n rhoi sgiliau i ddysgwyr ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol.
Wrth i ni symud tuag at 2025, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i chi ac yn croesawu eich adborth parhaus ar ein datblygiadau.
Hoffwn ddymuno Nadolig dedwydd i chi ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith gyda'n gilydd yn y flwyddyn newydd.
Yn gywir
Ian