Cynnig llwybrau ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol – ein cymwysterau ar waith
Fel y corff dyfarnu blaenllaw yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfres gynhwysfawr o gymwysterau sy'n darparu llwybrau addas i ddysgwyr.
Mae ein cyfres alwedigaethol yn parhau i dyfu, gan gynnig amrywiaeth o lwybrau i ddysgwyr. Mae pob cymhwyster yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag arbenigwyr addysg a diwydiant, i gynnig profiadau dysgu sy'n bodloni anghenion a diddordebau dysgwyr.
Un o'n cymwysterau mwyaf poblogaidd yw ein cyfres o gymwysterau 'Llwybrau at Gyflogaeth’. Cynlluniwyd rhain i gefnogi dysgwyr wrth ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach a hyfforddiant.
Buom yn siarad â Claire Williams (Rheolwr) a Lauren Lawrence (Tiwtor) yng Ngholeg Cambria ynghylch pam y mae'r cymwysterau hyn yn ddelfrydol ar gyfer eu dysgwyr.
Beth wnaeth eich denu at ein cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth?
Ar hyn o bryd rydym yn cyflwyno'r Dystysgrif Lefel 1 mewn Hunanddatblygiad a Llesiant, gan fod hyn yn cynnig llwybr clir i ddysgwyr sy'n chwilio am waith yn y sector gofal plant. Mae'r cymhwyster wedi ysbrydoli ac ysgogi ein dysgwyr, a'u hannog i ddatblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer llwyddo yn y diwydiant.
Yn bwysicach, mae'r cymhwyster yn sicrhau bod dysgwyr yn derbyn cefnogaeth wedi'i theilwra i'w hanghenion unigol, gan gyfateb i’w cymhelliant i chwilio am waith. Yn gyffredinol, mae'r cymhwyster hwn yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad i rymuso dysgwyr a'u paratoi ar gyfer gyrfa ystyrlon mewn gofal plant.
Sut ydych chi wedi cyflwyno'r cymhwyster yn eich coleg?
Rydym wedi cyflwyno'r cymhwyster Lefel 1 fel rhan o ‘raglen symud ymlaen’. Mae hyn wedi profi i fod yn arbennig o fuddiol i'r dysgwyr oedd yn teimlo bod y cynnydd o Lefel 1 i 2 yn heriol. O ganlyniad, mae nifer sylweddol o ddysgwyr yn llwyddo yn eu cymwysterau Lefel 2, sy'n profi pa mor fuddiol yw'r dull hwn.
Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn yn cyfuno'r cymhwyster Lefel 1 â chymwysterau Gofal Plant eraill. Credwn y bydd cyflwyno hyn fel rhan o fframwaith yn sicrhau bod dysgwyr wedi'u paratoi'n dda ac yn hyderus wrth fynd i'r afael â chyrsiau ar lefelau uwch.
Sut mae eich dysgwyr wedi ymateb i'r cymhwyster?
Mae dysgwyr wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r cymhwyster hwn. Rydym wedi gweld newid sylweddol yn eu lefelau hyder, sydd wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Dangosodd llawer o ddysgwyr welliant sylweddol yn eu sgiliau rhyngbersonol, gan ganiatáu iddynt ryngweithio'n fwy effeithiol â chyfoedion a darpar gyflogwyr.
Yn ogystal, mae yna gynnydd amlwg yn eu gallu i reoli amser, prydlondeb a'u sgiliau proffesiynol cyffredinol. Mae'r gwelliant hwn wedi eu helpu i baratoi ar gyfer disgwyliadau'r gweithle.
Gweler cynnydd yn hyder y dysgwyr o ran deall yr hyn sydd i'w disgwyl mewn cyflogaeth. Mae hyn wedi cyfrannu at deimlad cryf o gyflawniad a thwf personol. Yn gyffredinol, mae'r cymhwyster hwn wedi cael effaith drawsnewidiol ar eu gweledigaeth a'u parodrwydd ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.
Sut mae CBAC wedi eich cefnogi i gyflwyno'r cymhwyster?
Mae cefnogaeth Amy Thomas, Swyddog Pwnc yn CBAC wedi bod yn wych. Rydym wedi teimlo cefnogaeth drwyddi draw. Mae ei thîm yn cynnig cyngor ardderchog ac rydym yn gwybod gyda phwy i gysylltu os oes angen unrhyw gefnogaeth arnom.
Am ragor o wybodaeth ar ein cyfres lawn o Gymwysterau Galwedigaethol, gan gynnwys ein cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth, ewch i www.cbac.co.uk/Dyfodol