Cymwysterau newydd i gefnogi system addysg fodern, gynhwysol ac amrywiol.

Cymwysterau newydd i gefnogi system addysg fodern, gynhwysol ac amrywiol

Nawr bod tymor arholiadau'r haf wedi dod i ben, rydym yn hyderus bod ein hasesiadau wedi rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth. Mae ein timau o arholwyr hyfforddedig bellach yn brysur yn marcio miloedd o sgriptiau i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn graddau dilys, dibynadwy a theg ym mis Awst.  

Yn dilyn cyfnod o waith datblygu cymwysterau dwys, rydym yn falch o gyhoeddi bod ein manylebau drafft ar gyfer y don gyntaf o TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig ar gael, heblaw am TGAU Astudiaethau Crefyddol lle mae angen mireinio’r cynnwys ymhellach. 

Rydym yn hyderus o hyd y bydd ein holl fanylebau Ton 1 yn cael eu cymeradwyo’n fuan gan Cymwysterau Cymru ac edrychwn ymlaen at rannu’r fersiynau cymeradwy â chi ym mis Medi. 

Mae datblygiad llwyddiannus ein cymwysterau newydd yn cael ei arwain gan ein Tîm Datblygu Cymwysterau profiadol ac ymroddedig ochr yn ochr â'n Swyddogion Pwnc. Yn ystod y broses hon fe wnaethom fabwysiadu dull cyd-awduro a oedd yn ein galluogi i ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid ledled Cymru drwy amrywiaeth o fentrau. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu grwpiau cynghori, lansio ymgynghoriadau ochr yn ochr â mynychu a chyflwyno cyfres o ddigwyddiadau i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau addysg ar draws Cymru.  

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd adborth adeiladol i ni yn ystod y cyfnod cydweithredol hwn, ac wrth i ni symud ymlaen i ddatblygiad cam nesaf y cymwysterau, rwy'n gobeithio y byddwch yn parhau i gymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau hyn.  

I gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, mae ein Tîm Dysgu Proffesiynol wedi lansio pecyn cynhwysfawr o gyfleoedd hyfforddi RHAD AC AM DDIM, sy'n cynnwys cymysgedd o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y cyrsiau cenedlaethol hyn yn cael eu cyflwyno gan ein harbenigwyr manyleb hyfforddedig a byddant yn darparu mewnwelediad ac arweiniad ymarferol i ganolfannau wrth iddynt ddechrau paratoi wrth gyflwyno'r cymwysterau hyn.  

Yn ogystal â Dysgu Proffesiynol, mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio gyda'n Swyddogion Pwnc i gynhyrchu pecyn cynhwysfawr o adnoddau RHAD AC AM DDIM ac addasadwy i gefnogi'r gwaith o gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd. Bydd y tîm yn dechrau cyhoeddi'r rhain o dymor yr hydref, a bydd y gyfres gyfan ar gael erbyn haf 2025. 

I gael mynediad at ein manylebau drafft, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth rydym yn eu cynnig, ewch i'r adran 'Gwneud-i-Gymru' ar ein gwefan, sy'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth ac arweiniad.  

Ochr yn ochr â datblygiad ein Cymwysterau Cyffredinol, rydym hefyd wedi ehangu ein cyfres o Gymwysterau Galwedigaethol. Ym mis Ebrill, lansiwyd "Cynaliadwyedd ar Waith", y cyntaf yn ein cyfres Cynaliadwyedd. Mae'r cymwysterau newydd hyn wedi'u cynllunio i gefnogi 'swyddi sero net' y genhedlaeth nesaf o weithwyr ac maent wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Lansiwyd y cymwysterau hyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda gwesteion uchel eu parch gan gynnwys dirprwyaeth ryngwladol a oedd yn hyrwyddo ein hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol. 

Yn ogystal, ni hefyd oedd y corff dyfarnu cyntaf yn y DU i lansio cyfres o gymwysterau Lled-ddargludydd, a ddatblygwyd ar y cyd â'r clwstwr lled-ddargludyddion CSconnected, colegau, prifysgolion ac arbenigwyr diwydiant. Mae'r rhain yn cynnig llwybr newydd a chyffrous i ddysgwyr i'r diwydiant hwn sy’n ffynnu ac maent eisoes yn cael eu cyflwyno drwy 'Ffowndri Sgiliau Lled-ddargludydd Cymru', sy'n cael ei arwain gan ddarparwr hyfforddiant o Gaerdydd, iungo Solutions.  

Ochr yn ochr â'r datblygiadau cyffrous hyn, roeddwn i a'm cydweithwyr yn mynychu Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, Powys. Mae'r digwyddiad blynyddol hwn bob amser yn uchafbwynt yn fy nyddiadur, gan ei fod yn cynnig cyfle gwych i gwrdd ag athrawon, darlithwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill o bob cwr o'r wlad, a gweld talent ein dysgwyr ifanc yng Nghymru.  

Mae ein gwaith gwerthfawr gyda'n hysgolion a'n colegau wedi parhau drwy gydol y flwyddyn, ac ym mis Mehefin bues i'n ymweld â Choleg St John Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a chwrdd ag aelodau o'r Tîm Arweinyddiaeth yng Ngholeg y Cymoedd. Mae'r ymweliadau hyn yn hynod bwysig i mi, oherwydd gallaf ddeall pryderon ein hysgolion a'n colegau yn uniongyrchol ac archwilio sut y gall CBAC fynd i'r afael â'r materion hyn. Os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â lorna.turner@cbac.co.uk 

Hoffwn ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus trwy gydol y flwyddyn, a dymunwn bob lwc i bawb am weddill tymor yr haf. 

Yn gywir,

Ian