Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi Cymwysterau ar gyfer y dyfodol: Y Dewis Cywir i Gymru - Adroddiad Penderfyniadau

Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi Cymwysterau ar gyfer y dyfodol: Y Dewis Cywir i Gymru - Adroddiad Penderfyniadau

Heddiw, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei adroddiad - Cymwys ar gyfer y dyfodol: Y Dewisiadau Cywir i Gymru. Yn yr adroddiad amlinellir y penderfyniadau a wnaed ganddynt ynghylch amrywiol faterion, gan gynnwys y genhedlaeth newydd o gymwysterau TGAU a fydd yn ymdrin ag amrywiol bynciau o Fathemateg i Ddawns. Caiff y cymwysterau newydd hyn eu llunio i gefnogi cyflwyniad cwricwlwm newydd Cymru, fel bod cymwysterau felly'n addas ar gyfer y dyfodol.

Yn ei sylw am y cyhoeddiad allweddol hwn dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Croesawn y cyhoeddiad gan Cymwysterau Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn gychwyn ar gyfnod cyffrous i'r byd addysg yng Nghymru. Byddwn ni'n cael cyfle i ddatblygu cymwysterau arloesol sy'n addas i'r dyfodol, o ran eu cynnwys a'u dull asesu.

'Edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â chorff Cymwysterau Cymru, yr ysgolion a'r colegau, ac amrywiol randdeiliaid o Gymru ei hun ac yn ehangach. Dyma fydd y camau nesaf tuag at ddatblygu cyfres o gymwysterau sy'n ddynamig ac yn ddeniadol."

Yn rhan o'r gwaith diwygio hwn, ac er mwyn clywed barn rhanddeiliaid o Gymru gyfan wrth ddatblygu'r cymwysterau newydd hyn, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru hefyd ei fod yn lansio rhaglen sgwrs genedlaethol. Byddant yn defnyddio'r fenter hon i gyflwyno cynigion ar gyfer y cymwysterau newydd o haf 2022, i fod ar gael i ddysgwyr yng Nghymru o 2025.

Ewch i wefan Cymwysterau Cymru i ddarllen yr adroddiad yn llawn ac i gymryd rhan yn y sgwrs genedlaethol.

14/10/2022

Gweithgaredd Hanner Tymor yr Hydref
Gweithgaredd Hanner Tymor yr Hydref
Blaenorol
Haf 2022: Cymwysterau Cymru yn cadarnhau ei ddull graddio
Haf 2022: Cymwysterau Cymru yn cadarnhau ei ddull graddio
Nesaf