Canllawiau Ychwanegol i Athrawon ar gael nawr

Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Penderfyniadau Terfynol a Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU diwygiedig

Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad Penderfyniadau Terfynol a'u Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y gyfres newydd o TGAU fel rhan o'u menter Cymwys ar gyfer y Dyfodol.

Gan gyfeirio at y cyhoeddiad arwyddocaol hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad gan Cymwysterau Cymru. Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi'r cyfeiriad a'r fframweithiau i ni ddechrau'r gwaith cyffrous o greu'r TGAU newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.

Gan ddefnyddio ein 75 mlynedd o brofiad, byddwn yn bwrw ymlaen â'r penderfyniadau hyn, gan ddefnyddio dull 'cyd-awduro ar gyfer datblygiad y cymwysterau hyn. Drwy gydol y broses, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys athrawon/darlithwyr, penaethiaid, dysgwyr, busnesau, undebau, prifysgolion a llawer mwy.

Rydym wedi ymrwymo i greu cyfres o gymwysterau cyffrous a diddorol, a fydd yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i ddysgwyr yng Nghymru i gystadlu yn y farchnad fyd-eang."

Bydd y TGAU newydd ar gael i ysgolion a cholegau yng Nghymru o fis Medi 2025 a byddant yn cefnogi cyflwyno cwricwlwm newydd Cymru.

Mae Cymwysterau Cymru wedi cwblhau ymgynghoriad 'Cynnig Llawn' yn ddiweddar, gan archwilio'r amrywiaeth lawn o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru rhwng 14 a 16 oed. Bydd canlyniadau'r ymarfer hwn yn cael eu cyhoeddi gan Cymwysterau Cymru maes o law.

Y wybodaeth ddiweddaraf

Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion, y cyfleoedd a'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch y TGAU newydd, eich i'n hardal we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Mae CBAC yn barod'. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.

Cefnogi datblygu cymwysterau - ymunwch â'n tîm!

Fel rhan o'n dull o ddatblygu'r cymhwysterau newydd hwn, rydym yn chwilio am athrawon/darlithwyr i ymuno â ni fel awduron/adolygwyr i gefnogi creu ein manylebau. Yn ogystal, rydym yn gwahodd arbenigwyr pwnc i ymuno â'n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu i gydweithio'n agos â ni er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn gynhwysol, yn ddiddorol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae ceisiadau ar agor tan 14 Gorffennaf, i gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais ewch i'r dudalen we ganlynol.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a diweddariadau, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio.

28/06/2023