Cymhwyster llesiant yn rhoi gwersi bywyd allweddol i bobl ifanc

Cymhwyster llesiant yn rhoi gwersi bywyd allweddol i bobl ifanc

Mae cymhwyster sy'n helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ddeall testunau allweddol bywyd yn well wedi cyrraedd carreg filltir bwysig.

Mae'r cymhwyster 'Hunanddatblygiad a Llesiant', a grëwyd gan y corff dyfarnu CBAC a'r darparwr Hyfforddiant ACT, yn ddiweddar wedi dathlu blwyddyn ers ei lansio.

Y cymhwyster Hunanddatblygiad a Llesiant yw'r cyntaf o'i fath i’r ddau gorffac mae'n ymdrin â thestunau y mae dysgwyr ifanc yn debygol o'u hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd, o faterion fel llywio cyfryngau cymdeithasol, deall hunaniaeth bersonol a hylendid i iechyd rhywiol a rheoli arian.

Crëwyd y cymhwyster dros gyfnod o ddwy flynedd, a datblygwyd y cymhwyster gan brofiadau dysgwyr sy'n mynychu Twf Swyddi Cymru+ (JGW+), gyda ffocws ar yr hyn y byddai pobl ifanc yn debygol o'i brofi a'r hyn na fyddent efallai wedi'i ddysgu mewn mannau eraill.


Dywedodd Laura Callaghan, Swyddog Cymwysterau Sgiliau a Llwybrau yn CBAC: “Rydym yn falch iawn o weld y nifer cynyddol sy’n manteisio ar ein cymhwyster Hunanddatblygiad a Llesiant a’i fod yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus. Mae'r cymhwyster unigryw hwn wedi'i ddylunio gyda'n dysgwyr mewn golwg, gan roi cyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy iddynt a llwybr amgen at gyflogaeth.

Rydym yn hynod ddiolchgar i ACT am eu hangerdd a'u gwaith caled wrth gyflwyno'r cymhwyster hwn. Mae ansawdd y gwaith sy'n cael ei gyflwyno gan eu dysgwyr yn dyst i'w gallu ennyn eu diddordeb a'u hysbrydoli.“


Mae JGW+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu gan Llywodraeth Cymru i unigolion 16-19 mlwydd oed ac yn eu helpu i gaffael y sgiliau, cymwysterau, a'r profiad i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Mae dysgwyr ar raglen JGW+ fel arfer yn dewis arbenigedd sy’n ennyn eu diddordeb, fel gofal anifeiliaid, adeiladu neu drin gwallt. Mae'r cwrs Hunanddatblygiad a Llesiant yn gymhwyster ychwanegol i'w ychwanegu at eu portffolio.

Mae'n cael ei rhannu'n dair prif adran - sgiliau gwydnwch, hunaniaeth bersonol a dulliau atal cenhedlu.


Esboniodd tiwtor JGW+ Kayleigh Williams:

"Mae'r dyfarniad Hunanddatblygiad a Llesiant yn rhoi dealltwriaeth ehangach i'n dysgwyr o destunau y gellir eu hwynebu yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae'r testun gwydnwch yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd sy'n cefnogi strategaethau hunanddatblygu ein dysgwyr. Er enghraifft, mae'n helpu i ddysgu technegau anadlu iddynt i hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar gadarnhaol. Anogir dysgwyr hefyd i greu cyfnodolion sy'n mapio'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i leihau lefelau straen a gorbryder.

Mae'r modiwl hunaniaeth bersonol yn edrych ar wahanol gefndiroedd a chymunedau a sut mae ein dysgwyr yn ffitio i'r byd.

Mae'r drydedd uned, atal cenhedlu, yn ymdrin â gwahanol ddulliau o atal cenhedlu, sut maen nhw'n cael eu defnyddio, lle gall dysgwyr fynd i'w cael, a phwysigrwydd cadw eu hunain yn ddiogel."


 

I ddod i wybod mwy am ACT, TSC+ a chyfleoedd dysgu eraill sy'n seiliedig ar waith, ewch i www.acttraining.org.uk