Cymeradwyo'r don gyntaf o gymwysterau Gwneud-i-Gymru

Yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau, rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ein manylebau  ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru*. Mae'r manylebau hyn ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2025.

Yn tynnu sylw at y llwyddiant hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Mae cymeradwyo'r don gyntaf o fanylebau wir yn  garreg filltir arwyddocaol wrth ddarparu cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae pob cymhwyster wedi'i lunio i baratoi dysgwyr ar gyfer y byd modern ac yn cyd-fynd â phedwar pwrpas y Cwricwlwm i Gymru.

Drwy gydol y broses ddatblygu, rydym wedi ymgysylltu a gwrando ar sawl randdeiliad gwahanol, gan gynnwys dros 170 o staff addysgu ar draws fwy na 100 o ysgolion yng Nghymru a mwy na 50 o sefydliadau annibynnol. Rwy'n ddiolchgar iddynt am eu parodrwydd i gyfrannu drwy gydol y broses ddatblygu.

Rydym yn hyderus y bydd y cymwysterau hyn yn ysbrydoli ac yn ymgysylltu â dysgwyr, gan roi cyfleoedd newydd a chyfoes iddynt, ac yn eu harwain i fod yn ddysgwyr gwybodus a galluog yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol.”

*Noder, mae'r TGAU Astudiaethau Crefyddol diwygiedig yn dal i gael ei adolygu, fodd bynnag, mae'r fanyleb ddrafft ar gael i'w gweld ar-lein, ac mae'r tîm yn hyderus y bydd yn cael ei chymeradwyo yn nhymor yr hydref.

Mae'r manylebau wedi'u cymeradwyo ar gael i'w lawrlwytho o'r tudalennau pwnc canlynol:


Cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru

Datblygwyd y cymwysterau gyda’r Cwricwlwm i Gymru mewn cof. Fodd bynnag, ni fydd hyn i gyd i'w weld yn y fanyleb gan mai dim ond rhan gyntaf y jig-so yw hynny. Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol. 

Yn ogystal, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesu ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau.


Adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM ac Dysgu Proffesiynol

I gefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM. Byddwn yn dechrau cyhoeddi'r deunyddiau o ddiwedd tymor yr hydref, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy'r cyhoeddiad canlynol.

Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.


Cael y wybodaeth ddiweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.