Cyhoeddi'r drydedd rownd o fyfyrwyr i ennill Bwrsari Gareth Pierce
Mae tri myfyriwr addawol o Gymru wedi ennill bwrsarïau yn rhan o Gynllun Bwrsari Gareth Pierce CBAC.
Iwan Rhys Bryer a Siôn ap Llwyd Dafydd o Brifysgol Caerdydd a Jacob Matthew Redmond o Brifysgol Aberystwyth, yw'r tri myfyriwr fydd yn derbyn bwrsari o £3,000 yr un er cof am ein cyn-Brif Weithredwr, Gareth Pierce.
Gan gyfeirio at gamp y myfyrwyr, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Mae bwrsari Gareth Pierce bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac mae ei phoblogrwydd cynyddol yn adlewyrchu brwdfrydedd Gareth dros Fathemateg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar ran CBAC, hoffwn longyfarch Jacob, Iwan a Siôn, sydd wedi derbyn y bwrsari nodedig hwn. Pob hwyl iddynt gyda'u hastudiaethau, a gobeithio y bydd y bwrsari'n golygu eu bod yn gallu ffynnu yn eu cyrsiau perthnasol."
Lansiwyd y cynllun bwrsari yn 2022 a'i nod yw cefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cynllun bwrsari yn cefnogi 3 myfyriwr yn flynyddol ac mae'n cael ei weinyddu gyda chefnogaeth garedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
"Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Iwan, Siôn a Jacob ar ennill Bwrsari Gareth Pierce eleni. Mae'n fraint cefnogi'r bwrsari hwn er cof am ffrind, cydweithiwr a ffigwr dylanwadol a wnaeth gyfraniad allweddol i'r Coleg a'r maes addysg yng Nghymru yn ehangach. Rydym yn hynod ddiolchgar i deulu Gareth a hefyd i CBAC am eu cefnogaeth. Dymunwn bob llwyddiant i'r myfyrwyr ar gyfer y dyfodol."
Yr enillwyr
Mae Iwan Rhys Bryer o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin, yn falch iawn ei fod yn gallu astudio rhan o'i gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn apelio at gyflogwyr sydd eisiau sgiliau dwyieithog. Dywedodd: "Mae'n bwysig iawn fy mod i'n gallu astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn i mi allu datblygu fy nherminoleg ac arbenigedd yn y ddwy iaith. Rwy'n ddiolchgar i fy athrawon yn Ysgol Bro Myrddin am fy ysbrydoli i astudio Mathemateg yn y brifysgol, ac i CBAC a'r Coleg Cymraeg am y cymorth." |
Mae Siôn ap Llwyd Dafydd o Ffos y Gerddinen ger Caerffili wedi bod yn angerddol am Fathemateg ers iddo fod yn blentyn ifanc yn datrys posau. Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn athro neu'n ddarlithydd Mathemateg yn y dyfodol. Roedd hi'n bwysig iawn i mi barhau gyda fy addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol ar ôl gadael yr ysgol gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf." |
Roedd Jacob Matthew Redmond o Gaerdydd yn falch iawn o glywed ei fod wedi ennill y bwrsari i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd: “Rydw i'n mwynhau byw yn Aberystwyth, ac mae'r cwrs wedi bod yn ardderchog hyd yn hyn. Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r Coleg ac i CBAC am y bwrsari. Yn y dyfodol, rydw i'n gobeithio gweithio yn y sector ariannol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy nghymuned." |
Gwneud cais
Yn rhan o'r cynllun, rhoddir 3 bwrsari o £3,000 y flwyddyn i bob myfyriwr sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n gymwys hefyd i gael benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar brawf modd. Gan mai grant yw'r arian a dderbynnir, nid yw'n ad-daladwy, gan leihau'r baich ariannol ar fyfyrwyr. Mae'r cynllun yn cael ei gynnal bob blwyddyn, a gellir gwneud ceisiadau o dymor y Gwanwyn ymlaen.
Mae manylion pellach am sut bydd y cynllun yn gweithio ar gael drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102