Cyhoeddi rhestr siaradwyr yr 11eg Gwobrau Delwedd Symudol

obeithiwn eich bod wedi gwneud nodyn yn eich calendrau, oherwydd dim ond 2 fis sydd tan ein Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol 2025.  

Mae'r seremoni wobrwyo unigryw hon (sy'n cael ei threfnu gan CBAC/Eduqas, ar y cyd â'r British Film Institute (BFI)) wedi'i chydnabod gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. 

Rydym yn falch o groesawu criw rhagorol o siaradwyr gwadd!  

Meddai Dr Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm Eduqas: “Eleni, rydym yn croesawu panel o westeion ysbrydoledig, gan gynnwys gwneuthurwr ffilmiau, ysgrifennwr sgriptiau a beirniad ffilmiau, yn ogystal â'n cyflwynydd Anna Smith (BBC, SKY, podlediad Girls on Films). Mae sesiwn holi ac ateb y panel yn gyfle gwych i ddarpar wneuthurwyr ffilm ac ysgrifenwyr sgript ifanc gael cyngor a mewnwelediad amhrisiadwy o ran gweithio yn y diwydiannau sgrin.”

Rydym yn falch iawn o gyflwyno'r gwesteion canlynol, a fydd yn ymuno â ni yn y BFI yn Llundain, ar 10 Chwefror, ar gyfer ein seremoni wobrwyo: 

Anna Smith

Mae Anna Smith yn un o brif feirniaid ffilm a darlledwyr y DU. Yn gyn-lywydd UK Critics’ Circle, hi yw cyflwynydd a chyd-sylfaenydd Girls On Film, podlediad mwyaf blaenllaw'r byd am fenywod ym myd ffilm. Ers ei bennod gyntaf yn 2018, mae Girls On Film wedi croesawu 13 enillydd Oscar i'r podlediad, wedi cael ei enwebu am saith gwobr ac wedi lansio ei sioe wobrwyo flynyddol ei hun.    
 
Fel awdur, mae Anna yn cyfrannu'n rheolaidd at Time Out, The Guardian, Rolling Stone UK, Waitrose Weekend a Metro. Ar ôl bod yn arbenigwr ffilm ar sawl rhifyn o'r BBC News Channel Film Review, mae Anna bellach yn ymddangos yn rheolaidd ar Sky News a BBC Radio 4. Mae hi hefyd wedi cynnal cannoedd o sesiynau holi ac ateb ar lwyfan a pherfformiadau cyntaf ffilmiau ac mae wedi bod yn feirniad mewn seremonïau gan gynnwys y BAFTA Film Awards, The Sky Arts Awards a'r British Independent Film Awards.

Instagram: @annasmithfilmcritic | X: @annasmithjourno  

Kate Leys

Golygydd sgriptiau a straeon yw Kate Leys. Ers blynyddoedd lawer, mae hi wedi gweithio ar brif ffilmiau a chyfresi teledu ledled y byd. Mae hi'n gweithio ar brojectau ar bob cam o'i datblygiad ac mae hefyd wedi gweithio ar raglenni dogfen, animeiddiadau, ffilmiau byr, sain ac yn achlysurol theatr. Mae'n gweithio'n aml gyda gwneuthurwyr ffilmiau brodorol byd-eang, ac un diwrnod yn ystod y cyfnod clo bu'n gweithio gyda gwneuthurwyr ffilmiau yn Fienna, Beirut, Tblisi a Maputo.   

Mae ffilmiau diweddar yn cynnwys TORNADO (John MacLean); DREAMERS (Joy Gharoro Akpojotor); WORKMATES (Curtis Vowell); MR K (Talulah Schwab); SKY PEALS (Venice 2023); THE UNBORN BIRO (Sundance 2023); JE'VIDA (Tribeca 2023 ac enillydd sgript orau Helsinki Film Fest 22); prif ffilm ddogfen FADIA’S TREE (Llundain 22); HARKA (Cannes 22); MILLIE LIES LOW (Berlin ac SXSW 2022); DO NOT HESITATE (Tribeca 2021); DREAM HORSE (Sundance 2020).  

Mae ei gwaith teledu'n cynnwys THE VALHALLA MURDERS (Netflix, Mystery a Truenorth yng Ngwlad yr Iâ); I AM cyfres 1 (C4); BABYLON (C4) a'r comedïau BUFFERING cyfres 2 (ITV3) a HOFF THE RECORD (Dave, enillydd Int'l Emmy 2016). Ar hyn o bryd mae'n datblygu cyfresi drama gyda C4 a gydag Apple+.   

Mae hi'n siarad mewn sefydliadau ffilm, ysgolion ffilm a gwyliau ledled y byd.  

Amrou Al-Kadhi 

Mae Amrou Al-Kadhi yn awdur, gwneuthurwr ffilmiau a pherfformiwr Prydeinig-Iracaidd, y mae eu gwaith yn canolbwyntio'n bennaf ar hunaniaeth gwiar, cynrychiolaeth ddiwylliannol a gwleidyddiaeth hil. Dangoswyd y brif ffilm gyntaf iddynt ei chyfarwyddo LAYLA, am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yn Sundance a chafodd ei rhyddhau yn y DU trwy Curzon, yn ogystal â nifer o werthiannau rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau a ledled Ewrop.

Mae gan Amrou nifer o brif ffilmiau a chyfresi teledu gwreiddiol eraill wedi'u cwblhau yn y DU a'r Unol Daleithiau gyda chwmnïau gan gynnwys Fifth Season, Pulse Films, South of the River Pictures, a The Forge. 

Maent wedi ysgrifennu nifer o benodau o Hollyoaks, yn ogystal â'r diweddglo ar gyfer Little America a enwebwyd am wobr BAFTA ar gyfer Apple TV + gyda Stephen Dunn. Disgrifiodd The Hollywood Reporter hon fel un o'r 10 pennod deledu orau yn 2020. Ysgrifennodd Amrou hefyd bennod ar gyfer The Watch ar gyfer BBC America, yn seiliedig ar Nofelau Discworld Syr Terry Pratchett.   

Mae Amrou wedi ysgrifennu/cyfarwyddo pedair ffilm fer, sydd wedi cael eu dangos mewn gwyliau ledled y byd sy’n gymwys i ennill gwobrau Oscar neu BAFTA, ac sydd wedi cael eu dosbarthu gan Peccadillo Pictures, PBS, BBC4, NOWNESS, BFI Player a Revry. 

Larushka Ivan-Zadeh

Larushka Ivan-Zadeh yw’r Prif Feirniad Ffilm ym Metro, sef papur newydd mwyaf poblogaidd y DU. Mae hi hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd at ddarlledu Times Radio, Sky News a'r BBC ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o reithgorau ffilm gan gynnwys y British Independent Film Awards a'r BAFTAs.  

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delwedd Symudol, gan gynnwys enillwyr blaenorol, ewch i'n gwefan.