Cydnabod dyfeiswyr Cymru yn y dyfodol yn y Gwobrau Arloesedd blynyddol
Mae myfyrwyr dawnus wedi'u cydnabod am eu gwaith creadigol anhygoel yn seremoni nodedig y Gwobrau Arloesedd, a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr am yr 22ain gwaith yn y Pierhead, Bae Caerdydd.
Mae’r Gwobrau Arloesedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y goreuon o ran creadigrwydd a gwaith dylunio o blith y nifer mawr o fyfyrwyr dawnus sydd gennym yng Nghymru.
Cynhaliwyd y gwobrau unwaith eto ar ôl dwy flynedd o absenoldeb oherwydd y pandemig, lle daeth myfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau o bob rhan o Gymru ynghyd yn y Pierhead i ddathlu ac i wobrwyo'r gwaith project mwyaf gwreiddiol a wnaed gan fyfyrwyr sy'n astudio Dylunio a Thechnoleg ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch.
Er gwaethaf effaith amlwg y pandemig ar ddysg, rhoddodd y beirniaid glod i'r myfyrwyr am 'oresgyn heriau sylweddol i greu cysyniadau a chynhyrchion arloesol'. Dywedwyd bod 'safon uchel' yr ymgeiswyr eleni yn tynnu sylw at 'natur eang arloesedd ac uchelgais y myfyrwyr' a bod hynny'n 'destun dathlu mawr'.
Eleni enillodd Benjamin Morris o Ysgol Gyfun Brenin Harri'r VIII, Y Fenni, y categori Safon Uwch a daeth i’r brig fel yr Enillydd Cyffredinol gyda'i greadigaeth, dyfais amddiffyn bysedd traed i gricedwyr. Gwnaeth ei waith profi a datblygu argraff fawr ar y beirniaid a welodd lawer o werth masnachol i'w gynnyrch.
Ar ôl ennill, dywedodd Benjamin: “Mae hwn wedi bod yn brofiad anhygoel. Doeddwn i wir ddim yn meddwl mai fi fyddai’r Enillydd Cyffredinol - mae llawer o brojectau a chysyniadau nodedig iawn yma. Hoffwn ddiolch i fy athro, Mr Curran, mae e wedi bod yn athro Dylunio a Thechnoleg arna i yn Harri'r VIII ers Blwyddyn 7. Mae e wedi bod yn amyneddgar iawn dros y blynyddoedd ac mae’n haeddu clod am fy llwyddiant heddiw.”
Enillwyr y Gwobrau 2022
Enillwyr TGAU 1af - Jacob Taylor Chow, o Ysgol Glan Clwyd am ei 'Beicio yn Ddiogel' dyfeisgar’ |
Enillwyr UG 1af – Finnley Colwill-Downs, o Ysgol Gyfun Brynteg ar gyfer ei 'Gynnig Dylunio Bagl' newydd’ |
Enillwyr Safon Uwch 1af - Benjamin Morris, o Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII, Y Fenni am ei 'Dyfais amddiffyn bysedd traed i Gricedwyr' gwych |
Aeth gwobrau eraill i: Gwobr Eiddo Deallusol - Niamh Harris, Ysgol Gyfun Brynteg |
Mae'r rhestr lawn o enillwyr (gan gynnwys disgrifiadau o’r projectau a sylwadau ein beirniaid) bellach ar gael yma.
Mae lluniau o'r digwyddiad ac o'r projectau buddugol ar gael ar ein tudalen Facebook.
Canmol am eu llwyddiant
Croesawodd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr, yr holl gystadleuwyr wnaeth gyrraedd y rownd derfynol yn y seremoni eleni. Edrychodd a thrafododd y projectau rhagorol gyda disgyblion llawn cyffro oedd wedi cyrraedd y rhestr fer, cyn cyflwyno'u gwobrau.
Wrth sôn am y seremoni a'r enillwyr, dywedodd:
"Mae wedi bod yn fraint mwynhau llwyddiant y myfyrwyr hyn yn y seremoni wobrwyau hon. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod pobl ifanc dalentog yng Nghymru ac yn dathlu lefel yr ymrwymiad a'r gwaith caled sy'n digwydd wrth greu'r cynhyrchion hyn.
"Llongyfarchiadau mawr iawn i'r holl enillwyr. Rydych chi wedi dangos ymrwymiad ac agwedd benderfynol anhygoel i ddatblygu'r syniadau hyn ac i'w gwireddu. Dylech chi fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Mae'r gallu i sianelu creadigrwydd a’i droi’n rhywbeth dychmygus a buddiol i gymdeithas yn ddawn brin. Rwy'n siŵr mai dim ond y cyntaf o lawer o gyflawniadau a dyfeisiadaucyffrous i ddod yw’r rhain, ac edrychwn ymlaen at weld ble mae eich astudiaethau'n mynd â chi nesaf. Gallaf ddweud yn hyderus bod dyfodol dylunio ac arloesedd mewn dwylo diogel iawn yng Nghymru!
"Cydnabyddwn hefyd y gefnogaeth aruthrol gan athrawon a theuluoedd bob cam o'r ffordd i deithiau creadigol y bobl ifanc – diolch!"
Aeth Ian ymlaen i gydnabod y 'gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru' a dywedodd: "Mae eu cefnogaeth barhaus yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac hebddo, ni fyddai modd cynnal y Gwobrau Arloesedd.”
Ochr yn ochr ag Ian Morgan, cyflwynwyd eu tlysau i'r enillwyr gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a ddywedodd:
“Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r Gwobrau Arloesedd i Fyfyrwyr eto eleni.”
“Mae safonau uchel yr ymgeiswyr yn enghreifftiau gwych o'r hyn y gall Cymru ei gyflawni drwy wyddoniaeth, technoleg ac arloesedd. Mae'r gwobrau'n dangos talent, brwdfrydedd ac ymrwymiad ein pobl ifanc ledled Cymru.”
“Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol!”
I gael rhagor o wybodaeth am ein Gwobrau Arloesedd, ewch i'n tudalen we.