Ofqual yn lansio ymgynghoriad: Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol, a chymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Eduqas

Ydych chi wedi cyflwyno eich cofrestriadau rhagarweiniol eto? Dyddiad cau 10 Hydref

Gall Swyddogion Arholiadau gyflwyno cofrestriadau ar gyfer cyfres Mehefin 2025 (TAG, TGAU, Lefel 1/2 Cyffredinol, Dyfarniadau / Tystysgrifau Galwedigaethol, Tystysgrifau / Diplomâu Cymhwysol, Lefel Mynediad, Cymwysterau Galwedigaethol a GCDDP) drwy'r Porth yn awr.

Dyddiad cau cyflwyno cofrestriadau rhagarweiniol yw: 10 Hydref

Dilynwch y llwybr: COFRESTRIADAU AC YMRESTRIADAU > GWNEUD COFRESTRIADAU RHAGARWEINIOL > dewis y pwnc perthnasol

Nodir fod yn rhaid derbyn cofrestriadau rhagarweiniol ar gyfer y pynciau canlynol er mwyn i ganolfannau dderbyn copïau caled o'r deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer yr asesiadau cynnar hyn:

  • CBAC TAG a TGAU Celf a Dylunio
  • CBAC TGAU Daearyddiaeth (Ymholiad Gwaith Maes)
  • CBAC TGAU Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth Gymhwysol (Asesiadau ymarferol a seiliedig ar dasgau)
  • CBAC TAG Gwyddoniaeth (Arholiadau ymarferol)

Pam cyflwyno cofrestriadau rhagarweiniol?

Mae cofrestriadau rhagarweiniol yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint o ddeunydd ysgrifennu arholiadau, deunyddiau wedi'u rhyddhau ymlaen llaw a phapurau arholiad cynnar i'w hanfon i ganolfannau. Defnyddir cofrestriadau rhagarweiniol hefyd wrth gynllunio o ran y pynciau sy’n cynnwys ymweliadau arholwyr (e.e. Drama, Dylunio a Thechnoleg, ITM a Cerddoriaeth).

Mae'n bwysig felly eu bod yn cael eu cyflwyno mor gywir â phosibl, ac erbyn y dyddiad cau, sef 10 Hydref.

Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad.

Dyma ganllaw cam wrth gam ar gyfer trefn berffaith i'r bore
Blaenorol
Cymeradwyo'r don gyntaf o gymwysterau Gwneud-i-Gymru
Nesaf