Cefnogwch ddyfodol adnoddau digidol

Wrth i ni barhau i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, mae ein tîm Adnoddau Digidol yn chwilio am awduron ac adolygwyr i gefnogi'r gwaith o greu pecyn newydd o adnoddau dysgu. 

Bydd yr adnoddau arloesol hyn wedi'u cynllunio i gefnogi'r gwaith o weithredu a chyflwyno ein cymwysterau newydd, gan sicrhau eu bod yn cefnogi uchelgeisiau'r ‘Cwricwlwm newydd i Gymru’. 

Arbenigwyr pwnc

Ydych chi'n arbenigwyr pwnc ar gyfer unrhyw un o'r pynciau Ton 2 isod? Mae ein tîm yn edrych i benodi rhai ar gyfer cymwysterau sy'n cael eu haddysgu o fis Medi 2026:

  • Dylunio a Thechnoleg
  • Dawns
  • Astudiaethau Cymdeithasol (arbenigwyr pwnc sydd â phrofiad mewn addysgu Cymdeithaseg, Seicoleg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, a Daearyddiaeth, neu bwnc dyniaethau eraill) 

Pam dod yn awdur/adolygydd? 

  • Gweithio ochr yn ochr ag addysgwyr angerddol 
  • Datblygiad proffesiynol parhaus 
  • Ennill incwm ychwanegol 
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg 
  • Cynhyrchu deunyddiau a fydd yn gwella addysgu a dysg 

Ymgeisio

Ynghyd â chefnogi athrawon/darlithwyr a dysgwyr ledled Cymru, mae dod yn awdur/adolygydd gyda ni yn cynnig profiad gwerthfawr, gan gynnwys: 

I weld y fanyleb rôl lawn ac i ymgeisio, cliciwch yma.  
 
Peidiwch â chwblhau'r ffurflen gais yn eich porwr gwe. Yn hytrach, lawrlwythwch y ddogfen, arbedwch hi yn lleol, a chyflwynwch eich cais drwy e-bost at adnoddau@cbac.co.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw: 28 Ebrill, 2025 

Noder mai asesiad sgrinio cychwynnol fydd hwn i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau tasg ysgrifenedig fer. 

Cwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r rôl, cysylltwch ag adnoddau@cbac.co.uk