Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Yn CBAC, rydym yn falch o'r gefnogaeth gynhwysfawr yr ydym yn ei chynnig i ganolfannau wrth gyflwyno ein cymwysterau. Mae ein pecyn unigryw yn cynnwys mynediad uniongyrchol at arbenigwyr pwnc a thimau cefnogaeth, cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein ledled y wlad, ac adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025.
Dyma Melanie Blount, Pennaeth Datblygu Cynnwys, yn sôn am ei hymrwymiad: "Mae gan CBAC draddodiad sefydledig o gynhyrchu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i gefnogi ein cymwysterau. Wrth i ganolfannau ddechrau cyflwyno'r gyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, byddwn yn parhau gyda'r gefnogaeth hon, gyda phecyn o adnoddau addasadwy a fydd yn adlewyrchu ethos y cwricwlwm newydd.
Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu datblygu gan ein Timau Pwnc, ar y cyd ag arbenigwyr cwricwlwm o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Bydd pob adnodd newydd yn cael ei gynllunio i gefnogi a gwella addysgu a dysgu, gan ganolbwyntio ar bynciau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymwysterau hyn."
Ymateb i Adborth
Roedd ein penderfyniad i gynhyrchu'r pecyn hwn yn seiliedig ar arolwg cynhwysfawr a rannwyd â phob canolfan ledled Cymru yn 2023. Dangosodd y canlyniadau fod y mwyafrif o'r ymatebwyr wedi dewis dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth y gellir eu golygu fel eu hoff adnoddau i gefnogi addysgu a dysgu.
Adnoddau y gellir eu golygu
Bydd pob adnodd yn cael ei ddylunio i gefnogi ethos y Cwricwlwm i Gymru, drwy alluogi defnyddwyr i olygu'r adnoddau a theilwra yn ôl eu hardal leol. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon greu pecyn pwrpasol o adnoddau a fydd yn cefnogi amrediad eang o ddulliau addysgu.
Yn ogystal â'n pecyn newydd o adnoddau, mae ein cyfres bresennol o adnoddau digidol rhad ac am ddim ar gael hefyd, sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau sy'n parhau i fod yn rhan o'r gyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Amserlen cyhoeddi
Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025.
Ymunwch â'n tîm
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio gydag amrediad eang o randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a darlithwyr i gynhyrchu ein hadnoddau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi ein gwaith, cysylltwch â'n tîm drwy adnoddau@cbac.co.uk
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.