CBAC yn noddi Gŵyl Addysg Gwrth-hiliaeth
Yn rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd yn gynhwysol ac yn adlewyrchu amrywiaeth, gwnaethom noddi a mynychu'r Ŵyl Addysg Gwrth-hiliaeth ddiweddar. Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Mehefin. Roedd yr ŵyl yn gwneud i rywun feddwl ac yn gyfle perffaith i ymgysylltu â nifer o arbenigwyr amrywiaeth.
Dywedodd Paul Evans, Swyddog Datblygu Cymwysterau: “Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein cymwysterau TGAU newydd er mwyn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o faterion yn ein cymdeithas, boed hynny yn y gorffennol a'r presennol, sy'n adlewyrchu dyheadau Cwricwlwm i Gymru i ddatblygu dysgwyr egwyddorol a gwybodus. Felly, mae ein cymwysterau wedi'u datblygu i gefnogi'r ymdrech dros Gymru Wrth-hiliol erbyn 2030.
Mae cefnogi a mynychu digwyddiadau fel hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth yn gywir ac yn gyfredol a bod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cymwysterau. ‘Efallai nad arnoch chi y mae'r bai am rhywbeth, ond mae'n broblem i chi er hynny' oedd y dyfyniad wnaeth aros yn y cof ar y diwrnod. Cefais fy atgoffa y gall ein cymwysterau gynnig cyfleoedd i addysgu a dysgu am Gymru fywiog ac amrywiol, sy'n lle diddorol, goddefgar a blaengar i fyw a gweithio.”
Sicrhau cynhwysiant a chynrychiolaeth
Mae cynhwysiant wedi bod yn thema ganolog wrth ddatblygu ein cymwysterau newydd. Gan weithio mewn partneriaeth â DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth), gwnaethom integreiddio safbwyntiau amrywiaeth a gwrth-hiliaeth o'r cychwyn cyntaf. Roedd yr ymdrech gydweithredol hon yn sicrhau bod ein cymwysterau yn bodloni safonau academaidd trylwyr yn ogystal â dathlu'r amrywiaeth gyfoethog o brofiadau a chefndiroedd ymhlith dysgwyr ar draws Cymru.
Gwnaethom ymgysylltu ag ymgynghorydd gwrth-hiliaeth o'r cychwyn cyntaf a'n harweiniodd drwy'r broses, gan gyfrannu at ddatblygu rhaglen hyfforddi wedi'i theilwra ar gyfer pawb sy'n ymwneud â datblygu'r cymhwyster. Roedd eu dirnadaeth a'u cyfranogiad yn ystod ein grŵp rhanddeiliaid yn hanfodol bwysig wrth benderfynu ar destun ac ymdriniaeth, gan sicrhau bod ein cymwysterau'n adlewyrchu ac yn croesawu cynhwysiant yn ddiffuant.
Dysgwch fwy am y mesurau rydym yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig yn mynd ati i ymgorffori amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yma: Gwneud-i-Gymru: Adlewyrchu amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn. (cbac.co.uk)
Ynglŷn â'r Ŵyl
Cafodd yr Ŵyl Addysg Gwrth-hiliaeth gyntaf ei threfnu gan BAMEed Wales (Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol), ac mae'n ddigwyddiad arloesol sy'n ymroddedig i hyrwyddo addysg gwrth-hiliaeth. Casglodd grŵp bywiog o awduron a mynychwyr ynghyd ar gyfer y digwyddiad am ddiwrnod cyfan o drafod gwrth-hiliaeth, gyda'r nod o addysgu, herio ac ysbrydoli.
Roedd rhaglen yr ŵyl yn cynnwys cyfres o weithdai gydag areithiau a pherfformiadau a oedd yn creu argraff. Roedd wedi'i chynllunio i feithrin cymhwysedd diwylliannol, mwyhau lleisiau amrywiaeth, ac adeiladu cymuned gwrth-hiliaeth gynhwysol ar draws Cymru.
Roedd yr Athro David Olusoga, hanesydd, darlledwr ac awdur, yn un o'r prif siaradwyr. Roedd ei araith emosiynol yn pwysleisio ein bod ni i gyd yn gyfrifol am sicrhau bod hanes Pobl Ddu yn cydblethu â hanes Prydain, yn hytrach na'i fod yn cael ei ystyried yn endid ar wahân. Rhoddodd Connor Allen, yr awdur, bardd ac actor sydd wedi ennill sawl gwobr, ddarlleniad teimladwy hefyd,
gan gyfoethogi ein dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o naratifau amrywiaeth.
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.