CBAC yn derbyn Achrediad Arian Buddsoddwyr Mewn Pobl

Yn dilyn ein hachrediad safonol Buddsoddwyr Mewn Pobl yn 2021, mae'n bleser gan CBAC gyhoeddi ein bod wedi symud ymlaen i gyflawni'r achrediad arian. 

Fel corff dyfarnu mwyaf Cymru, mae CBAC yn darparu cymwysterau y gellir ymddiried ynddynt a chefnogaeth arbenigol i'n cymunedau addysg ledled y DU. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar ein sylfeini cryf o ran ymgysylltu â phobl ar gyfer y dyfodol, er mwyn rhoi cyfle i'n dysgwyr gyrraedd eu llawn botensial. 

Fel corff, rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella ac rydym am sicrhau bod gennym yr egwyddorion a'r arferion cywir ar waith. Rydym am i'n pobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o gorff lle gallant dyfu a datblygu.  

Yn fyd-eang, 22% o sefydliadau sydd wedi cyflawni'r safon hon, felly mae CBAC wedi ymuno â grŵp elitaidd o gyrff sy'n ymdrechu'n weithredol i ymgorffori arferion cyson sy'n cael effaith gadarnhaol ar draws eu busnes.  

Dywedodd Paul Devoy, Prif Weithredwr Buddsoddwyr mewn Pobl: 

 “Hoffem longyfarch WJEC CBAC Ltd. Mae achrediad arian Buddsoddwyr mewn Pobl yn ymdrech ryfeddol i unrhyw gorff, ac yn rhoi CBAC mewn cwmni da gyda llu o gyrff sy'n deall gwerth pobl.” 

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Elizabeth East, Uwch Bartner Busnes AD: 

"Mae hwn yn gyflawniad mawr i CBAC, ac roeddwn wrth fy modd bod ein canlyniadau asesu yn dangos bod gan ein pobl lefel uchel o frwdfrydedd ynghylch ein diben. Mae'n wych cael cydnabyddiaeth yn allanol a bod yn rhan o gorff sydd wir am wneud newid cadarnhaol!” 

Mae CBAC yn gobeithio y bydd ein cynnydd drwy fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl yn ein helpu i wella perfformiad a gwireddu ein hamcanion drwy reoli a datblygu ein pobl.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â CBAC, ewch i'n tudalen we Gweithio gyda ni. 

Adnoddau wedi'u teilwra RHAD AC AM DDIM i gefnogi ein cymwysterau Ton 2...
Nesaf