CBAC yn cynnal cynhadledd flynyddol ALTE

Cyn hir, bydd CBAC yn croesawu 62ain cyfarfod a chynhadledd ALTE i Gaerdydd.

ALTE yw’r Gymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop, ac mae’n gymdeithas o ddarparwyr profion ieithoedd sy’n cydweithio i hybu asesiadau teg a chywir o hyfedredd ieithyddol ar draws Ewrop a’r tu hwnt.  Cafodd ALTE ei ffurfio ym 1989 gan Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Salamanca.  Heddiw, mae gan ALTE 35 o aelodau llawn, sy’n cynrychioli 26 o ieithoedd Ewropeaidd.  Mae CBAC yn aelod llawn mewn perthynas â’r gyfres o arholiadau Cymraeg i oedolion y mae’n ei darparu. 

Yn sôn am y digwyddiad cyffrous hwn mae Emyr Davies, Uwch Reolwr Cymraeg i Oedolion CBAC: "‘Mae ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i ni groesawu cynhadledd ALTE i Gaerdydd.  Edrychwn ymlaen at rannu profiadau a syniadau gyda chydweithwyr o sefydliadau o Ewrop a’r tu hwnt ar y thema bwysig hon." 

Thema’r gynhadledd fydd Asesu Siarad a Siarad Rhyngweithiol, a bydd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro Tony Green (CRELLA), yr Athro Tess Fitzpatrick (Prifysgol Abertawe), yr Athro Nick Saville (Prifysgol Caergrawnt Cyhoeddi ac Asesu, ac Ysgrifennydd Cyffredinol ALTE), yn ogystal ag arbenigwyr eraill ym maes asesu ieithoedd.  Bydd y siaradwyr agoriadol yn cynnwys Ian Morgan (Prif Weithredwr CBAC), Dona Lewis (Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol) a Mark Drakeford (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Iaith Gymraeg). 

Am ragor o wybodaeth am ALTE a’r gynhadledd, ewch i www.alte.org.