CBAC yn cyflwyno addasiadau Cymraeg i gynulleidfa fyd-eang

CBAC yn cyflwyno addasiadau Cymraeg i gynulleidfa fyd-eang

Mae CBAC yn falch o gyhoeddi bod cyfieithiadau gan y dramodydd dawnus, Daf James, ymhlith casgliad newydd o destunau gosod a gomisiynwyd i gefnogi’r manylebau Drama TGAU ac UG/U2. Maent yn cynnwys ei addasiad Cymraeg o’i ddrama ef ei hun Heritage, sef Etifeddiaeth, yn ogystal â’i addasiad o ddrama Alison Carr, Tuesday, sef Un Bore Mawrth.

Comisiynwyd a golygwyd y ddau destun gan dîm golygyddol CBAC, gan gydweithio’n agos â Daf i alluogi dysgwyr i astudio’r dramâu hyn yn y Gymraeg.

Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus CBAC i fuddsoddi mewn darpariaeth ddwyieithog i gefnogi ysgolion a cholegau. Dros y blynyddoedd, comisiynwyd dros 30 o addasiadau yn amrywio o’r clasurol i’r cyfoes gan ddramodwyr fel Brecht, Chekhov, Dennis Potter a David Hare gan arwain at gyhoeddiadau print a digidol. Gyda balchder hefyd y cyhoeddwn mai Nick Hern Books, sef un o brif gyhoeddwyr dramâu Llundain, fydd yn cyhoeddi Tuesday/Un Bore Mawrth ar ffurf un gyfrol ddwyieithog, yn debyg i’r cydweithio a fu yn y gorffennol â Faber and Faber a Methuen Bloomsbury, gan fynd â’r Gymraeg i bedwar ban byd.

Dywedodd Mari Watkin, Rheolwr Golygyddol yn CBAC: ‘Bu’n fraint cael cydweithio’n agos ag awdur o safon Daf James. Mae’r projectau yma gydag awduron blaenllaw a chyhoeddwyr rhyngwladol yn bluen yn het CBAC. Mae gwybod y bydd y Gymraeg ar gael ledled y byd o fewn yr un cloriau â’r ddrama wreiddiol o ganlyniad i gefnogaeth a buddsoddiad ariannol gan CBAC yn destun balchder.’

Rhannodd Daf James ei frwdfryddedd yntau ‘Mae’n destun balchder i mi’n bersonol bod gan CBAC y weledigaeth i gomisiynu’r addasiadau hyn. Rwy’n ddiolchgar bod ‘Heritage’, a ysgrifennwyd yn Saesneg yn wreiddiol ar gyfer National Theatre Connections, ar gael yn y Gymraeg bellach o dan y teitl ‘Etifeddiaeth’, ac am y cyfle i weithio ar ddrama wych Alison Carr ‘Tuesday’, sef ‘Un Bore Mawrth’. Fel rhywun sy’n daer dros ddramâu Cymraeg a thros weithiau ar gyfer pobl ifanc, mae arwyddocâd gwleidyddol i mi yn y ffaith bod y testun Cymraeg bellach ar gael yn fyd-eang.’

Bydd y testunau hyn, yn ogystal ag 13 drama arall, yn fodd i ddysgwyr drafod ystod eang o themâu, yn cynnwys LHDTQ+ ac ethnigrwydd ymhlith meysydd eraill, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jonathan Thomas, Rheolwr CC CBAC: Jonathan.thomas@cbac.co.uk a 029 2026 5102.

Crynodeb o’r ddwy ddrama

Etifeddiaeth, Daf James
Comisiynwyd y ddrama hon yn rhan o raglen National Theatre Connections yn 2014. Mae’n adeg Gŵyl Fai yn ‘Y Wladfa’ (teyrnas ddychmygol wahanol i Batagonia), ac y mae grŵp o blant yn dod ynghyd mewn cae agored bychan, ond sydd wedi’i amgylchynu gan ffens drydan a system ddiogelwch. Mae’n ymddangos eu bod yno i ymarfer Anthem y Wladfa, wrth i’r oedolion gwrdd i fwynhau traddodiadau Gŵyl Fai er eu bod nhw’n swnio’n go amheus (Dawns y Ddafad Gorniog). Ond daw hi’n eglur yn y man bod y criw hwn o gymeriadau brith wedi cael eu dwyn ynghyd am resymau gwahanol iawn.

Un Bore Mawrth, Alison Carr (addasiad Daf James)
Dydd Mawrth digon cyffredin yw hi, ond yn sydyn mae’n troi’n ddiwrnod rhyfedd iawn pan mae’r awyr uwch ben yr ysgol yn rhwygo’n agored. Caiff disgyblion ac athrawon eu sugno i fyny i fydysawd cyfochrog wrth i garfan newydd o bobl arllwys i lawr oddi uchod. Rhaid i ‘Ni’ a ‘Nhw’ ddod ynghyd i ddeall beth sy’n digwydd ac i ddatrys sut i gael pethau’n ôl fel yr oedden nhw.